Neidio i'r prif gynnwy

Cwm Taf Morgannwg yn croesawu myfyrwyr Canolfan Addysg Tŷ Gwyn i Ysbyty'r Tywysog Siarl

Roedd hi’n braf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg groesawu myfyrwyr o Ganolfan Addysg Tŷ Gwyn yn Aberdâr yn ddiweddar i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Cawson nhw gyfle i weld y gwaith adeiladu sydd ar y gweill, yn ogystal â chymorth i ysgrifennu CV a gwneud cyfweliad. 

Mewn partneriaeth â Tilbury Douglas, Gyrfa Cymru a Chanolfan Addysg Tŷ Gwyn, cafodd y myfyrwyr Kaleb a Rhys, sy’n un ar bymtheg oed, wahoddiad i ymweld â'r safle adeiladu yn yr ysbyty. Yno, rhoddodd Rheolwr Adeiladu Tilbury Douglas, Dave Murphy, daith dywys iddyn nhw er mwyn dysgu’r myfyrwyr am y diwydiant adeiladu.  Ar ôl hynny, trefnodd Kelly Edwards, Rheolwr Gwerth Cymdeithasol Tilbury Douglas, ffug gyfweliadau a sesiwn ysgrifennu CV. 

Meddai Dave: "Roedd ymweld â’n safle yn ffordd wych i’r myfyrwyr weld sut mae'r diwydiant adeiladu'n gweithio o lygad y ffynnon.  

"Mae nifer fawr o wahanol rolau yn y diwydiant hwn, ac mae modd symud i fyny yn y fasnach. 

"Mae’n yn ffordd dda iawn hefyd o wybod a ydyn nhw am ddilyn yr yrfa hon yn y dyfodol. Mae rhai pobl yn credu eu bod nhw am weithio ym maes adeiladu, ond weithiau pan fyddan nhw’n dechrau yn y fasnach, nid dyma'r hyn roedden nhw’n ei ddisgwyl."

Mae tri chan miliwn o bunnoedd yn cael ei wario ar adnewyddu BIP Cwm Taf Morgannwg.  Dyma gyfle gwych i'r Bwrdd Iechyd gynnwys y gymuned mewn ymweliadau fel hyn er mwyn rhoi profiad o sefyllfaoedd go iawn i ysgolion a cholegau, yn ogystal â rhoi cyfle iddyn nhw helpu o bosib gyda’r gwaith dylunio a’r gwaith celf wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Meddai Dirprwy Brifathro Canolfan Addysg Tŷ Gwyn, Gavin Groves: "Mae'n wych bod ein myfyrwyr yn gallu cael seibiant o’r ysgol a chael profiad o fywyd go iawn yn y gweithle a chwrdd â'r bobl sy'n gwneud y gwaith. 

"Maen nhw'n gallu holi cwestiynau a gweld pa wahanol rolau sydd ar gael.  Mae llawer o bobl am fyw a gweithio yn eu cymuned, felly dyma gyfle gwych iddyn nhw weld pa fath o swyddi sydd ar eu stepen ddrws." 

Yn rhan o'r profiad gwaith i fyfyrwyr, aeth Michelle Common o Gyrfa Cymru ar yr ymweliad hefyd. Meddai hi, "Mae'r cyfle i fyfyrwyr ymweld â gweithleoedd yn hollbwysig ar gyfer eu dilyniant i'r gweithle. 

"Heddiw, mae'r myfyrwyr hyn wedi dysgu am y rolau ar safle adeiladu, maen nhw wedi cael ffug gyfweliadau ac wedi cael profiad o ysgrifennu CV.  Mae'n braf gweithio mewn partneriaeth â chyflogwr lleol fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a chwmni adeiladu mawr fel Tilbury Douglas."