Neidio i'r prif gynnwy

Ymyrryd yn gynnar mewn Seicosis

Nod Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar mewn Seicosis yw rhoi cymorth dwys i bobl ifanc rhwng 14-35 sy’n profi eu cyfnod cyntaf o seicosis.

Arwyddion o Seicosis

Gall arwyddion cynnar o Seicosis fod yn aneglur, a byddan nhw’n amrywio o’r naill berson i’r llall. Dyma rai o’r arwyddion y bydd yr unigolyn, neu’r bobl o’i gwmpas, yn sylwi arnyn nhw:

  • Teimlo’n ddryslyd, yn ddig, yn bryderus, mewn hwyliau isel neu mewn hwyliau ansad
  • Teimlo’n amheus, yn llawn tyndra neu deimlo bod bygythiad
  • Problemau gyda chysgu neu newidiadau mewn chwant bwyd
  • Ei chael yn anodd ymdopi â’r gwaith neu ag astudiaethau
  • Dim cymhelliant, neu golli diddordeb yn y pethau yr oedd y person yn arfer eu mwynhau
  • Diffyg gallu i ganolbwyntio, gweithio pethau allan neu gofio pethau
  • Clywed sibrydion, chwerthin neu synau mwmian dieithr

Gall rhai o’r newidiadau hyn fod yn ymateb i ddigwyddiadau llawn straen fel anawsterau yn yr ysgol/coleg/gwaith, perthnasau’n dod i ben neu’r broses o newid rolau. I rai pobl, gall defnyddio cyffuriau a/neu alcohol at ddibenion adloniant achosi’r anawsterau hyn.

Fodd bynnag, mae’n syniad da cael cymorth cyn i’r anawsterau hyn achosi gofid. Os yw cyfnod seicotig yn datblygu, gorau po gyntaf y caiff y person driniaeth.

Mae arwyddion hwyrach yn debygol o fod yn fwy amlwg, a gallan nhw fod yn ofidus iawn. Er enghraifft:

  • Mae pethau’n teimlo’n rhyfedd ac mae teimlad o ansicrwydd wrth weld ffrindiau neu wrth fynd allan. O’r herwydd, mae’r person yn treulio rhagor o amser ar ei ben ei hun.
  • Teimlad bod pobl eraill yn siarad am y person neu’n ei wylio, sy’n achosi paranoia.
  • Mae meddyliau’r person wedi eu drysu, wedi eu harafu neu wedi eu cyflymu, neu mae ymyrraeth ynddyn nhw
  • Mae teimlad bod y corff wedi ei feddiannu, neu wedi ei newid mewn rhyw ffordd
  • Ffrindiau neu deulu’r person yn sylwi ar newid yn ei ymddygiad, fel ymddygiad rhyfedd, dehongli pethau mewn ffyrdd gwahanol i bobl eraill, neu wneud sylwadau anarferol.
  • Clywed neu weld pethau sy’n ymddangos yn wir i’r person er nad yw neb arall yn sylwi arnyn nhw
  • Credu bod negeseuon ac arwyddion arbennig i’r person
Beth i'w ddisgwyl

Mae’r tîm yn cynnwys gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion a’u teuluoedd i ddeall eu profiadau personol, gwella symptomau, hybu lles emosiynol, lleddfu ar straen, gwella hyder a gwella hyder a sgiliau cymdeithasol yr unigolyn a’i allu i ymdopi.

Mae’r broses o adfer yn wahanol i bawb. Ein nod yw gweithio ochr yn ochr â phobl i wella eu hiechyd meddwl ac ansawdd eu bywyd, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu bwrw ymlaen â’u bywydau.

Atgyfeiriadau a chysylltu â'r tîm

Rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd fel P-CAMHS, S-CAMHS, CMHT, CRHT, PCMHS, lleoliadau cleifion mewnol ac asiantaethau allanol fel meddygon teulu ac Awdurdodau Lleol.

Mae modd cysylltu â’r tîm hwn ar hyn o bryd trwy’r  Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i Wasanaethau Oedolion, neu drwy’r Tîm Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc yn Nhon-teg.

Gwasanaethau i Oedolion (atgyfeiriadau i'r rheiny rhwng 18 a 35 oed):
CAMHS (atgyfeiriadau ar gyfer y rhai 14-17 oed):

Mae'r Tîm ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.

*Gall unigolion sy'n byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gael cymorth drwy Wasanaeth Ymyrryd yn gynnar mewn Seicosis BIP Bae Abertawe. Ffoniwch nhw ar (01639) 862957.

Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Ymyrraeth Gynnar yng Nghymru ar gael yn: http://www.psychosis.wales/.

Dilynwch ni: