Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Galwedigaethol

Mae therapyddion galwedigaethol yn arbenigo mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd meddwl pobl hŷn a gwasanaethau plant. Bydd yr holl arbenigeddau hyn yn gwneud trefniadau penodol i helpu eu cleifion a’u cleientiaid yn y ffordd fwyaf priodol yn ystod y cyfnod hwn.

Ffocws y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yw eich gwneud chi mor annibynnol â phosib a’ch galluogi chi i wneud y gweithgareddau y mae angen i chi eu gwneud neu’r gweithgareddau rydych chi am eu gwneud. Gall therapyddion galwedigaethol eich helpu chi i ddychwelyd at eich trefn arferol a’ch galluogi chi i wneud gweithgareddau rheolaidd fel ymolchi a gwisgo, paratoi bwyd, siopa, symud o gwmpas eich cartref, rheoli eich bywyd yn y cartref neu ddychwelyd i’r gwaith, bywyd yn yr ysgol neu ganolfannau chwarae.

Mae modd gwneud hyn drwy drafod beth sy’n bwysig i chi, asesu eich anghenion, darparu strategaethau i’ch helpu chi i reoli eich cyflwr, adsefydlu, darparu offer sydd wedi cael eu haddasu, datblygu sgiliau newydd, gweithio gyda’ch hun a’r rhwydweithiau cymorth allweddol sydd o’ch cwmpas, e.e. gofalwyr, rhieni neu athrawon.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gydag oedolion a phlant sydd ag anawsterau iechyd corfforol a / neu iechyd meddwl, beth bynnag yw’r diagnosis maen nhw wedi ei gael. Gallai’r rhain fod:

  • O ganlyniad i ddamwain neu salwch diweddar.
  • Oherwydd cyflyrau hirdymor a chynyddol.
  • Yn bresennol ers genedigaeth.

Mae ein gwasanaethau’n cael eu darparu ar draws amrywiaeth o arbenigeddau, gan gynnwys:

  • Gwasanaethau iechyd corfforol i gleifion mewnol
  • Gwasanaethau iechyd corfforol i gleifion allanol
  • Gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion
  • Iechyd meddwl pobl hŷn yn y gymuned
  • Iechyd meddwl cleifion mewnol i bobl hŷn
  • Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol
  • Gwasanaethau Paediatrig (Plant)

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Bydd gan bob ardal arbenigedd wahanol lwybrau atgyfeirio. Bydd rhai yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr iechyd proffesiynol atgyfeirio, tra bod eraill yn agored i hunan-atgyfeirio.

Amseroedd agor
9:00am – 4:00pm (er y gallai rhai gwasanaethau unigol weithredu y tu hwnt i’r oriau hyn)

Beth i'w ddisgwyl

Bydd aelod o’r tîm yn adolygu eich cais am gymorth ac yn trefnu eich ymgynghoriad cychwynnol a’ch asesiad.

Yn ystod eich ymgynghoriad cychwynnol, bydd gofyn i chi ddisgrifio beth sy’n achosi trafferth, beth hoffech chi ei wella a beth sy’n bwysig i chi.

Mae’n bosib y bydd eich therapydd yn gweithio gyda chi i osod nodau realistig ac i gytuno ar ymyriadau. Gallai’r rhain gynnwys gweithio gydag aelodau o’r Tîm Therapi Galwedigaethol yn unigol neu mewn grwpiau bach. Byddwn ni’n cydweithio i drefnu gweithgareddau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu chi i gyflawni eich nodau.

Cysylltwch â ni: 01443 443047

Cysylltiadau defnyddiol

Dilynwch ni: