Mae'r holl wahoddiadau ar gyfer y rhaglen beilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint hon bellach wedi'u hanfon. Os dydych chi ddim wedi derbyn gwahoddiad, yn anffodus fyddwn ni ddim yn gallu cynnig Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint i chi.
Darllen yr Adroddiad Gwerthuso Cynllun Peilot Gweithredol Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint neu Crynodeb Gweithredol o’r adroddiad. Bydd yr adroddiad yn helpu i lywio gwaith y mae Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud ar sut y gellid darparu sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae Gwiriadau Iechyd Ysgyfaint y GIG AM DDIM yn cael eu cynnig i bobl:
O feddygfeydd dethol yn ardal y Rhondda
Nod gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yw canfod a thrin canser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn i chi gael unrhyw arwyddion neu symptomau.
Mae gwiriadau iechyd yr ysgyfaint yn achub bywydau.
Hoffech chi wybod mwy? Cliciwch ar y dolenni isod neu lawrlwythwch un o'n Llyfryn Gwybodaeth, sydd ar gael fel fersiynau safonol a Hawdd eu Darllen, yn Saesneg ac yn Gymraeg.