Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i wasanaethau oherwydd COVID-19 – Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion

Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cydweithio ac yn cymryd camau ledled ein Bwrdd Iechyd i gadw effaith pandemig COVID-19 dan reolaeth, ac mae cynlluniau wrth gefn wedi eu rhoi ar waith i gynnig gwasanaethau mwy diogel i bawb. 

 

Y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol

Mae’r gwasanaeth hwn wedi cwtogi ar ei wasanaethau wyneb yn wyneb ac mae wedi dechrau cynnig mwy o’i wasanaethau dros y ffôn. Mae gwaith asesu’n cael ei wneud o hyd. Mae gweithgareddau grŵp a digwyddiadau wedi eu hatal. Mae defnyddwyr ein gwasanaeth yn cael eu hanfon ymlaen at wasanaethau cymorth eraill bob tro, boed hynny ar lein neu dros y ffôn, megis cymorth sydd ar gael gan sefydliadau trydydd sector.

Am ymholiadau brys, cysylltwch â’r brif dderbynfa trwy ffonio 01443 443712 (Merthyr/Rhondda Cynon Taf) neu 01656 752449 (Pen-y-bont ar Ogwr).

 

Timau Argyfwng

Mae’r Tîm Argyfwng ar agor 24 y dydd, 7 diwrnod yr wythnos yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty’r Tywysog Siarl. Rydyn ni’n annog pobl mewn argyfwng iechyd meddwl i ffonio ein llinell argyfwng 24/7 neu i gysylltu â’u tîm iechyd meddwl cymunedol. Mae’r gwasanaeth yn gwneud defnydd helaethach o alwadau ffôn a thriniaethau yn y cartref, a dros y ffôn mae’r gwasanaeth yn cael ei gynnig yn bennaf erbyn hyn.

Cysylltwch â’r rhain os oes ymholiadau brys gyda chi:

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg: 01443 443712 Est 74903 (9am – 5pm) neu 74388 (y tu allan i oriau)
  • Ysbyty’r Tywysog Siarl: 01685 721721 Est 26952/26953
  • Ysbyty Tywysoges Cymru: 01656 752449

 

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion

Mae ein timau clinigol yn parhau i asesu anghenion defnyddwyr gwasanaethau ac i gynnig gwasanaethu amgen. Mae gwasanaethau dros y ffôn yn cael eu cynnig lle bo hynny’n bosibl. Mae gwasanaethau Clozapine, Lithium a Depo ar agor o hyd. Mae adolygiadau rheolaidd o foddion a phresgripsiynau’n parhau hefyd.

 

Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau

Mae’r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol yn dal i fod ar waith ac maen nhw’n gweld cleientiaid newydd a chleientiaid presennol, a hynny dros y ffôn pan fydd yn bosib. Mae ymgynghoriadau dros fideo trwy Attend Anywhere yn cael eu hystyried hefyd.

Pwynt Cyswllt Cyntaf ar gyfer Cyffuriau ac Alcohol (DASPA). Rhif ffôn: 0300 333 0000.

 

Y Gwasanaeth Cyswllt Seiciatrig (Mewn Ysbytai)

Mae ein Gwasanaethau Cyswllt Seiciatrig yn parhau i gynnig cyngor a chymorth am unrhyw gleifion ar ein wardiau cyffredinol ac yn yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys sydd gydag anghenion iechyd meddwl.

 

Y Tîm Iechyd Meddwl Pobl Hŷn Cymunedol 

Yn ein Gwasanaeth Cof a’n gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol i Bobl Hŷn, rydyn ni’n sicrhau bod modd i ni gynnig gwasanaeth da i’n defnyddwyr gwasanaeth sydd fwyaf agored i niwed. 

Rydyn ni wedi lleihau ein cyswllt wyneb yn wyneb â phobl hŷn. Rydyn ni’n dal i gynnig asesiadau dementia brys ac ymweliad â chartrefi gofal. Mae asesiadau dementia newydd wedi eu hatal ar hyn o bryd, ac mae adolygiadau sydd ar y gweill yn cael eu gwneud dros y ffôn. 

Mae’r Tîm Ymyrraeth Dementia Arbenigol (SDIT) yn RhCT yn parhau i dderbyn atgyfeiriadau o gartrefi gofal ac ar ran teuluoedd sy’n gofalu am bobl gyda dementia yn eu cartrefi eu hunain. Gellir rhoi cyngor dros y ffôn; dim ond mewn achosion eithriadol y mae SDIT yn ymweld â chartrefi gofal. Mae Gwasanaeth Asesu Cof Therapi Galwedigaethol yn parhau i gynnig asesiadau a chymorth lle bynnag y bo’n bosibl dros y ffôn.

 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol

Mae ein gwasanaeth amenedigol yn cynnig gwasanaeth dros y ffôn, ond i bob pwrpas mae wedi atal cyswllt wyneb yn wyneb. Mae asesiadau risg o feichiau achos yn parhau i gael eu cynnal a’u hadolygu’n rheolaidd, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth.  

Mae gweithgareddau grŵp wyneb yn wyneb a digwyddiadau wedi eu gohirio, ac mae cymorth amgen yn cael ei ddarparu.

Rydyn ni’n cynnig cyrsiau beichiogrwydd trwy ddefnyddio adnoddau ar lein. Mae pob defnyddiwr gwasanaeth perthnasol yn cael cynnig yr opsiwn hwn, a bydd cyngor ar gael dros y ffôn i ateb unrhyw ymholiadau am y wybodaeth a’r cyngor a roddwyd.

 

Y Tîm Anhwylderau Bwyta

Mae timau iechyd meddwl ac anhwylderau bwyta arbenigol yn cydweithio er mwyn cynnig gwasanaethau monitro, cymorth a thriniaeth yn y gymuned ac yn y cartref. Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn parhau i gydweithio â’r Gwasanaeth ar gyfer Anhwylderau Bwyta Risg Uchel yng Nghaerdydd. 

Am ymholiadau brys am anhwylderau bwyta, ffoniwch 01443 486222 Est 5404.

 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cleifion Mewnol i Oedolion a Phobl Hŷn

Mae ein wardiau asesiadau a thriniaeth ar agor o hyd i gleifion newydd. Mae lle ychwanegol ar ein wardiau wedi ei gwneud yn bosibl i ni ddynodi mannau i gleifion COVID-19 a mannau i gleifion hebddo, er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal diogel. Mae gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau cymunedol ac eiriolaeth yn cadw mewn cysylltiad â chleifion yn yr ysbyty dros y ffôn lle bynnag y bo’n bosibl.

Mae’r gwasanaeth Uned Ddydd Acíwt wedi ei chau dros dro oherwydd yr angen i atal cyswllt rhwng pobl ac i gadw pellter cymdeithasol. Mae’r staff yn cefnogi gwasanaethau eraill ar hyn o bryd yn yr adran Acíwt, ac mae hyn yn cael ei adolygu yn rheolaidd.

 

Gwella ac Adsefydlu

Mae’r gwasanaeth yn cadw mewn cysylltid yn rheolaidd naill ai dros y ffôn neu drwy apwyntiadau fideo. Mae’r timau’n dal i dderbyn atgyfeiriadau, a byddan nhw’n cynnal asesiadau dros y ffôn lle bo hynny’n bosibl. 

Bydd timau cymunedol yn parhau i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth sy’n cymryd moddion Clozapine a moddion depot yn ôl yr arfer. Mae gweithgareddau yn ein hunedau adsefydlu cleifion mewnol yn parhau i gadw cleifion yn brysur a rhoi synnwyr o bwrpas a phositifrwydd iddyn nhw.

Rehab 4 Addiction - Bydd Rehab 4 Addiction yn eich helpu i gael gafael ar wasanaeth adsefydlu cyffuriau neu alcohol yn ardal Morgannwg. Gallwch chi eu ffonio ar 0800 140 4690, neu gysylltu â nhw drwy eu gwefan. Maen nhw wrth law i'ch helpu chi i fynd i’r afael â’ch dibyniaeth unwaith ac am byth.

Dilynwch ni: