Teuluoedd Cydnerth
Nod y Gwasanaeth yw darparu gwell cymorth i deuluoedd mewn amseroedd ymateb cyflymach; asesiad diagnostig byrrach a chliriach; un pwynt cyswllt y gellir ymddiried ynddo a chymorth ymarferol rhagweithiol i ymgysylltu ag ymyriadau a gynlluniwyd i gynyddu lefelau gwydnwch.
Gellir gwneud atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth drwy’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) yn y modd canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, cysylltwch â 01443 281435 neu rfs@rctcbc.gov.uk
Bydd yr holl atgyfeiriadau'n cael eu 'brysbennu' gan y Tîm IAA i'w dyrannu yn ôl risg/angen. Bydd atgyfeiriadau a dderbynnir gan y Tîm IAA nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy Gwasanaethau Plant Cydnerth a ystyrir yn briodol ar gyfer ymyrraeth yn cael eu dyrannu i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Bydd e-byst yn cael eu darllen yn ystod oriau swyddfa yn unig o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30yb - 17:00yp.
YEPS
Mae YEPS yn cynnig mynediad i bobl ifanc 11-25 oed i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM ar draws nifer o ysgolion a lleoliadau ieuenctid. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid. Ar hyn o bryd mae clybiau ieuenctid yn rhedeg rhwng 6pm ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fel person ifanc, gallwch gymryd rhan trwy weld eich gweithiwr YEPS mewn ysgolion, colegau, neu drwy'r wefan.
Mae YEPS yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc ar sail un i un (gwaith cyfeirio) a/neu sesiynau grŵp.
Cynigir darpariaeth a chefnogaeth YEPS trwy:
Gofalwyr Ifanc
Prosiect Gofalwyr Ifanc RhCT 01443 425006 / youngcarerssupportteam@rctcbc.gov.uk
Pobl ifanc sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind gyda salwch, anabledd, cyflyrau iechyd meddwl neu gaethiwed.