Neidio i'r prif gynnwy

Pen-y-bont ar Ogwr

Hwb Helpu Cynnar

Mae’r Hybiau Helpu Cynnar yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Gan weithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantaethau cymunedol a phartneriaeth lleol, mae’r tîm yn gallu teilwra cymorth i’r anghenion niferus y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd, gan ddarparu cymorth tymor byr.

Gall Gweithwyr Cymorth weithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc i ddod o hyd i’r atebion cywir iddyn nhw a’u teulu mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:

  • Cyflwyno amrywiaeth o raglenni teulu seiliedig ar dystiolaeth yn uniongyrchol
  • Darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol
  • Gweithredu fel gweithiwr allweddol i deulu
  • Cynghori ar ystod eang o wasanaethau yn y gymuned
  • Cwblhau Asesiadau Teuluol a chynlluniau cymorth

I gael mynediad at y cymorth o fewn yr Hybiau Helpu Cynnar, cysylltwch â’r Tîm Sgrinio Helpu Cynnar:
E-bost: Earlyhelp@bridgend.gov.uk / Ffôn: 01656 815420
 

Mental Health Matters Wales

Croeso i Mental Health Matters Wales (MHM Wales)

Mae Mental Health Matters yn darparu cefnogaeth iechyd emosiynol, lles i’r cyhoedd, trwy gynnig gwybodaeth, eiriolaeth, hyfforddiant a chefnogaeth.

Ffôn: 01656 767045

Dilynwch ni: