Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Lliniarol Arbenigol

Mae gofal lliniarol yn ddull sy’n canolbwyntio ar anghenion corfforol, emosiynol ac ysbrydol cleifion, ac ar atal a lleddfu ar y symptomau corfforol (fel poen) ac ar y gorbryder a’r straen sy’n cyd-fynd â salwch difrifol yn aml, ynghyd â helpu cleifion sydd wedi colli eu hannibyniaeth. Mae gofal lliniarol hefyd yn cynnwys helpu cleifion ac aelodau o’u teulu i gynllunio ar gyfer anghenion cleifion yn y dyfodol, cydlynu gofal ac i gael trafodaethau sy’n gallu bod yn anodd ar adegau.

Ar draws ein Bwrdd Iechyd, ar bob safle, mae staff profiadol gyda ni sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol er mwyn darparu gofal lliniarol arbenigol. Maen nhw’n gweithio gyda’r holl dimau eraill er mwyn helpu cleifion, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth?

Gall pobl gael eu hanfon ymlaen at y gwasanaeth gan eu meddyg teulu, nyrs ardal, meddyg ymgynghorol mewn ysbyty neu gan nyrs arbenigol.

Beth i'w ddisgwyl

Mae’r Gwasanaeth Gofal Lliniarol Arbenigol yn BIP Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys tri thîm sy’n gwasanaethu ardaloedd Rhondda a Thaf Elái, Merthyr Tudful a Chwm Cynon, a Phen-y-bont ar Ogwr a Gorllewin Morgannwg. Maen nhw’n gwasanaethu ardaloedd gogleddol, deheuol a gorllewinol ardal Cwm Taf Morgannwg.

Yn rhan o’n gwasanaeth mae meddygon, nyrsys clinigol arbenigol, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, deietegwyr, therapyddion iaith a lleferydd, a therapyddion ategol a dargyfeiriol. Mae rhai o’r swyddi hyn wedi cael eu datblygu â chymorth gan Gymorth Canser Macmillan.

Rydyn ni’n gweld cleifion sy'n dal i gael triniaeth am eu salwch yn aml, ac wrth wneud hynny rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â’r oncolegydd neu’r arbenigwr calon er enghraifft.

Cymorth, gwybodaeth a chyngor pellach

Gall eich Tîm Gofal Lliniarol Arbenigol eich cyfeirio chi at gyngor a chymorth yn eich ardal leol.

Gwybodaeth i weithwyr iechyd proffesiynol

Er mwyn cyfeirio claf at un o’n timau, neu er mwyn trefnu i glaf gael ei dderbyn fel claf mewnol, ewch i'n tudalennau ar y fewnrwyd. Ar gyfer achosion brys, cysylltwch ag ysgrifennydd y tîm perthnasol trwy ffonio’r rhif isod:

Amseroedd agor
24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos

Ein Timau Gofal Lliniarol Arbenigol

Mae Tîm ardal Pen-y-bont ar Ogwr a Gorllewin Morgannwg yn gofalu am gleifion sy’n byw gartref ac mewn cartrefi nyrsio yn ardal orllewinol BIP Cwm Taf Morgannwg. Mae’r tîm yn gweithio yn Uned Gofal Lliniarol Arbenigol y Bwthyn Newydd ar safle Ysbyty Tywysoges Cymru. Maen nhw hefyd yn darparu gofal lliniarol arbenigol i gleifion mewnol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Maesteg, Ysbyty Glanrhyd ac Ysbyty’r Seren.

Cysylltwch â ni:

  • Derbynfa’r Bwthyn Newydd 01656 752003/4 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm)
  • Ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, a rhwng 4pm a 9am yn ystod yr wythnos, ffoniwch switsfwrdd Ysbyty Tywysoges Cymru: 01656 752752
  • Ward Cleifion Mewnol y Bwthyn Newydd: 01656 752003

Ein lleoliad: Y Bwthyn Newydd, Ysbyty Tywysoges Cymru, Heol Coety, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1RQ. Rydyn ni ar safle Ysbyty Tywysoges Cymru, ar y dde ar ben pellaf y campws. Mae rhywfaint o lefydd parcio yn y blaen.

E-bost: CTM_SPCTWest@wales.nhs.uk (dydy’r mewnflwch hwn DDIM yn cael ei fonitro y tu allan i oriau)

Mae tîm ardal Merthyr Tudful a Chwm Cynon yn gofalu am gleifion sy’n byw gartref ac mewn cartrefi nyrsio yn ardal ogleddol BIP Cwm Taf Morgannwg. Mae’r tîm yn gweithio ar Ward Ynysdawel (Ward 6) yn Ysbyty Cwm Cynon, ac hefyd yn darparu gofal lliniarol arbenigol i gleifion mewnol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl a’r holl ysbytai cymunedol eraill.

Cysylltwch â ni:

  • Ysgrifennydd y tîm/y dderbynfa. 01443 715154/5155 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm)
  • Ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, a rhwng 4pm a 9am yn ystod yr wythnos, ffoniwch y Tîm Nyrsio Ardal: 01443 444069
  • Ward 6 Cleifion Mewnol, Ysbyty Cwm Cynon: 01443 715006

Ein lleoliad: Ward 6, Ysbyty Cwm Cynon, Heol Newydd, Aberpennar, CF45 4BZ. Dewch i mewn trwy brif fynedfa’r ysbyty ac yna trowch i’r dde heibio i’r grisiau ar y llawr gwaelod.

E-bost: CTT_SPCTAdministrationNorth@wales.nhs.uk (dydy’r mewnflwch hwn DDIM yn cael ei fonitro y tu allan i oriau)

Mae Tîm ardal y Rhondda a Thaf Elái yn gofalu am gleifion sy’n byw gartref ac mewn cartrefi nyrsio yn ardal ddeheuol BIP Cwm Taf Morgannwg. Mae’r tîm yn gweithio yn Y Bwthyn, ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Maen nhw hefyd yn darparu gofal lliniarol arbenigol i gleifion mewnol yn Ysbyty Cwm Rhondda, yn ogystal ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg a’r holl ysbytai cymunedol eraill.

Cysylltwch â ni:

  • Ysgrifennydd y tîm/y dderbynfa: 01443 443758 (dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm)
  • Ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc, a rhwng 4pm a 9am yn ystod yr wythnos, ffoniwch y Tîm Nyrsio Ardal: 01443 444069
  • Ward Cleifion Mewnol y Bwthyn: 01443 443788

Ein lleoliad: Uned Gofal Lliniarol Arbenigol NGS Macmillan y Bwthyn, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, CF72 8XR. Rydyn ni wrth ymyl yr Uned Famolaeth ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer yr Uned Famolaeth. Gallwch barcio gyferbyn â’r uned neu ym mhrif faes parcio’r ysbyty.

E-bost: CTT_SPCTSouth@wales.nhs.uk (dydy’r mewnflwch hwn DDIM yn cael ei fonitro y tu allan i oriau) 

Dilynwch ni: