Yn dilyn asesiad a thrafodaeth fanwl ynglŷn â'ch symptomau, gall eich ffisiotherapydd ddefnyddio dulliau megis ymarfer corff, ymestyn a chryfhau cyhyrau gwan i fynd i'r afael â llawer o gyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) ar y traed a'r ffêr.
Bydd eich ffisiotherapydd yn pwysleisio pwysigrwydd parhau â rhai ymarferion yn ystod eich gofal, ond hefyd ar ôl i chi gael eich rhyddhau, oherwydd mewn rhai achosion gall poen yn y traed a'r ffêr gymryd sawl mis i wella'n llawn.
Unrhyw oedolyn yn sgil anaf neu ddirywiad graddol.
Gall - caiff pobl ddod atom heb gael atgyfeiriad gan feddyg teulu ond rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Bydd cleifion a atgyfeirir at ffisiotherapi ar gyfer poen yn y traed a'r ffêr yn cael asesiad manwl sy'n cynnwys hanes meddygol, yn ogystal ag asesiad corfforol.
Rydym yn argymell bod cleifion yn gwisgo dillad priodol, oherwydd yn aml bydd angen i'w ffisiotherapydd asesu nid yn unig y droed a'r ffêr ond hefyd y goes isaf a'r pelfis.
Ffoniwch ein Hwb Ffisiotherapi ar
01443 715012