Mae COVID hir yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio arwyddion a symptomau sy'n parhau neu'n datblygu ar ôl i rywun gael COVID-19.
Mae'n cynnwys COVID-19 symptomatig parhaus (4-12 wythnos) a syndrom ôl-COVID-19 (dros 12 wythnos). Daw nifer o wahanol arwyddion a symptomau gydag effeithiau tymor hwy COVID-19 a byddan nhw’n amrywio o ran difrifoldeb.
Does dim prawf pendant i roi diagnosis o COVID Hir a does dim angen i bobl gael canlyniad positif am COVID-19 unrhyw bryd er mwyn cael y diagnosis hwn.
Mae symptomau ysgafn gyda llawer o bobl a byddan nhw’n gallu trin y rhain eu hunain gyda chymorth ac arweiniad, tra bod symptomau cymhleth gyda rhai pobl a bydd angen cymorth amlddisgyblaethol arnyn nhw.