Mae gofal iechyd rhywiol ac atgenhedlol da yn hanfodol i gyfrannu at iechyd a lles cyffredinol ac mae’n cynnig y potensial i wella canlyniadau iechyd unigolion a chymunedau. Mae cael mynediad at yr holl wybodaeth am berthnasoedd iach, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, opsiynau atal cenhedlu, beichiogrwydd a gwasanaethau ehangach sydd ar gael yn hanfodol i hybu iechyd rhywiol da i bob unigolyn. Mae gwybodaeth a gwasanaethau ar gael yn ardal Cwm Taf Morgannwg (CTM) ac yn genedlaethol i bobl ifanc a’r boblogaeth ehangach.
I gael rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol yn ardal CTM, ewch i: Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol Integredig - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
I wneud apwyntiad mewn clinig iechyd rhywiol ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Ben-y-bont ar Ogwr, cysylltwch ag un o'n Llinellau Brysbennu ar:
Gallwch trefnu hunan-atgyfeiriad ar gyfer terfynu beichiogrwydd trwy gysylltu â:
Os nad ydych yn siŵr pa ardal i gysylltu â hi, caiff pob galwad ei brysbennu fel y bydd pawb sy’n cysylltu yn cael eu cefnogi i drefnu apwyntiad mewn clinig sydd fwyaf cyfleus iddynt ac a fydd yn cynnig y gwasanaeth sydd ei angen arnoch.
Mae cynllun Cerdyn-C CTM yn wasanaeth cyfrinachol i bobl ifanc 13-25 oed sy’n darparu mynediad i wybodaeth am iechyd a lles rhywiol, cyngor a chondomau am ddim. Darperir gwasanaethau ar adegau cyfleus ac mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws yr ardal, gan gynnwys canolfannau ieuenctid, ysgolion a cholegau. Mae gweithwyr allweddol hyfforddedig yn cefnogi pobl ifanc ac mae Tîm Iechyd Rhywiol Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol CTM yn darparu goruchwyliaeth glinigol.
Mae Iechyd Rhywiol yn darparu gwybodaeth iechyd rhywiol ar-lein am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a phrofion trwy’r post, atal cenhedlu, perthnasoedd, beichiogrwydd heb ei gynllunio, condomau a lles mislif; www.friskywales.org.
Os oes gennych chi gwestiynau ar waith iechyd rhywiol yn CTM, cysylltwch â CTM.PHTSexualHealth@wales.nhs.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Rhywiol yng Nghymru, ewch i Iechyd Rhywiol - Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gwybodaeth Iechyd Rhywiol i bobl ifanc 13-25 oed (Cymraeg)
Clinig Iechyd Rhywiol Aberdâr Gwybodaeth Galw Heibio Ieuenctid (Cymraeg)