Fel Deietegwyr, rydyn ni’n weithwyr iechyd proffesiynol cymwysedig a rheoleiddiedig sy’n asesu ac yn trin problemau sy’n ymwneud â deieteg a maeth, ynghyd â rhoi diagnosis ohonynt, ar lefel unigol ac ar lefel iechyd cyhoeddus ehangach. Rydyn ni’n gwneud hyn er mwyn gwella iechyd gwael, atal iechyd gwael, a hybu iechyd da.
Rydyn ni’n defnyddio’r ymchwil wyddonol ddiweddaraf ar fwyd, iechyd ac afiechydon, sydd yna’n cael ei throi’n ganllawiau ymarferol er mwyn arwain at newidiadau addas i ffordd o fyw pobl a’r bwyd maen nhw’n ei fwyta.
Rydyn ni’n gweithio gyda phobl iach a phobl sâl mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys y canlynol: llawdriniaeth, gofal critigol, gastroenteroleg, gofal yr henoed, iechyd meddwl, anableddau dysgu, iechyd plant, lleoliadau yn y gymuned ac iechyd cyhoeddus.
Mae amrywiaeth o opsiynau o ran atgyfeirio at y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Fodd bynnag, dim ond atgyfeiriadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill rydyn ni’n eu derbyn.
Amseroedd agor
8:30am – 4:30pm
Rydyn ni’n gweithio fel aelodau creiddiol o dimau amlddisgyblaethol er mwyn asesu a thrin cyflyrau clinigol cymhleth a rhoi diagnosis ohonyn nhw, trwy gynnig cyngor deietegol a chyngor ynghylch maeth. Gallai hyn gynnwys cyngor ynglŷn â diabetes, lleihau lipid, rheoli eich pwysau, diffyg maeth, diffyg gallu amsugno maeth, alergedd ac anoddefiad bwyd, methiant yr arennau ac anhwylderau ar y coluddyn.
Rydyn ni’n gweithio mewn nifer o leoliadau gofal iechyd, a hynny mewn cyd-destunau acíwt a chymunedol, ar y safleoedd canlynol:
Yn dibynnu ar y gwasanaeth y gofynnir amdano, gallech chi gael eich trin fel claf mewnol, mewn sesiwn grŵp i gleifion allanol, mewn apwyntiad clinigol un wrth un neu dros y ffôn.