Neidio i'r prif gynnwy

Ffisiotherapi i Blant (Ffisiotherapi Paediatreg)

Mae'r gwasanaeth Ffisiotherapi Plant (Ffisiotherapi Paediatreg) yn gweld babanod, plant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed sydd gydag oediad datblygiad neu fabanod, plant a phobl ifanc y mae anaf, salwch neu anabledd yn effeithio arnyn nhw.

Rydym yn helpu i wella neu adfer gallu babanod, plant a phobl ifanc i symud, i gadw eu hannibyniaeth, i wella eu cryfder ac i wella gweithrediad rhannau o'r corff. Yn ogystal â'n sgiliau arbenigol, mae gwybodaeth a phrofiad arbenigol gyda ni am ddatblygiad plant, am symud ac am anableddau plentyndod.

Rydym yn gweld plant a phobl ifanc ar y safleoedd canlynol:

  • Canolfan y Plant, Ysbty Cwm Cynon, Aberpennar
  • Clinig Carnegie, Trealaw
  • Canolfan y Plant, Ysbyty Brenhinol Morgannwg
  • Canolfan y Plant, Ysbyty Tywysoges Cymru

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Rydym yn gweld plant a phobl ifanc gydag amrywiaeth o gyflyrau gan gynnwys:

  • Anhwylderau niwrogyhyrol e.e. Dystroffi'r Cyhyrau
  • Cyflyrau niwrolegol e.e. Parlys yr Ymennydd, anaf i'r pen,
  • Spina Bifida
  • Cyflyrau anadlol e.e. Ffibrosis Systig
  • Cyflyrau rhiwmatolegol e.e. arthritis idiopathig ymhlith ieuenctid
  • Arthritis
  • Cyflyrau orthopedig e.e. Troed clwb, Clefyd Perthes, Dysplasia'r glun
  • Problemau cyhyrysgerbydol e.e. Pengamedd (Torticollis), ysigiadau, poen yn y cymalau
  • Syndromau cynenedigol e.e. Syndrom Down, Syndrom Pradar-Willi
  • Oediad datblygiadol, sy'n effeithio ar sut mae'ch plentyn yn symud

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae angen atgyfeiriad ar eich plentyn gan ei ymgynghorydd, meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu gan weithiwr iechyd proffesiynol arall sy'n adnabod y plentyn. Mae hefyd ar gael i blant 10 oed a hŷn sy'n wynebu anawsterau â'u cyhyrau, esgyrn neu gymalau (problemau cyhyrysgerbydol ac orthopaedig.

Oriau Agor
>Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.30am i 4.30pm

Beth i'w ddisgwyl

Bydd eich plentyn yn cael cynnig asesiad / apwyntiad yn un o'n canolfannau plant. Mae'n bwysig bod unigolyn â chyfrifoldeb rhiant yn mynd gyda'r plentyn i'r apwyntiad hwn, er mwyn sicrhau bod cydsyniad gwybodus yn cael ei roi ar gyfer asesiadau a thriniaeth. Mae cydweithredu yn bwysig o'r cychwyn cyntaf i helpu i wella galluoedd corfforol ac annibyniaeth eich plentyn i'r eithaf.

Yn ystod yr asesiad, edrychwn ar unrhyw anawsterau sydd gan eich plentyn gyda'i symud, a sut mae hyn yn effeithio ar ei weithgareddau o ddydd i ddydd. Er enghraifft, symud o gwmpas y cartref neu yn yr ysgol neu ei allu i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.

Ar ôl i ni gwblhau ein hasesiad, byddwn yn trafod y canlyniadau a'r cynllun triniaeth gyda chi. Byddwn yn gweld eich plentyn mor aml ag y credwn sy'n angenrheidiol, yn seiliedig ar ganfyddiadau'r asesiad. Fel rheol, rydyn ni'n trin plant yn y clinig, ond efallai y bydd adegau pan fyddwn ni'n cynnal triniaeth yn yr ysgol neu gartref.

Yn dilyn asesiad, gallai'r cynllun gynnwys:

  • Rhyddhau'r plentyn gyda chyngor
  • Gweithgareddau i'w gwneud gartref
  • Bloc o sesiynau triniaeth gan ffisiotherapydd neu gan un o'n gweithwyr cymorth gofal iechyd
  • Cyfeiriadau at wasanaethau eraill

Cysylltwch â ni

Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Canolfan y Plant
01443 443206
Ynysmaerdy,
Llantrisant,
CF72 8XR
Clinig Carnegie - Ffisiotherapi Plant
01443 688361
Ffordd Brithweunydd,
Trealaw,
CF40 2UH
Ysbyty Cwm Cynon - Canolfan y Plant
01443 715300
Ffordd newydd,
Mountain Ash,
CF45 4DG
Ysbyty Tywysoges Cymru - Canolfan y Plant
01656 752237
Ffordd Coity
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1RQ

Dolenni defnyddiol

Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatreg
Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatreg - Taflenni Rhieni
Chwaraeon Anabledd Cymru

Dilynwch ni: