Newidiadau gwasanaeth ar gyfer COVID-19
Os ydych chi wedi cael COVID-19, gallai’r adnodd hwn eich helpu chi: COVID-19: Cefnogi Eich Adferiad - Trosolwg
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein gwasanaethau ffisiotherapi bellach yn ailagor i atgyfeiriadau brys ac arferol. Yn unol â chanllawiau'r llywodraeth, rydym yn defnyddio rhith-apwyntiadau ym mhob gwasanaeth lle bynnag y bo modd.
Mae llawer o gyngor ar hunangymorth ar ein gwefan a thrwy Galw Iechyd Cymru ac 111. Rhowch gynnig ar yr adnoddau hunangymorth hyn cyn cysylltu â’ch meddyg teulu i gael eich atgyfeirio. Os oes anghenion brys gyda chi, gall eich meddyg teulu, ymarferydd nyrsio neu ymgynghorydd eich atgyfeirio chi i gael ffisiotherapi.
Mae ffisiotherapyddion yn darparu asesiadau, triniaeth ac adsefydlu ar gyfer y canlynol:
Mae amrywiaeth o opsiynau o ran atgyfeirio at y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu. Gweler y Gwasanaethau Cysylltiedig am fwy o wybodaeth.
Amseroedd Agor
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:00am – 4:00pm
Mae ffisiotherapyddion yn cynnig triniaeth ac asesiadau arbenigol ar gyfer amrywiaeth eang o broblemau gan weithio gyda phobl i wella eu hiechyd a’u lles eu hun.
Rydyn ni’n defnyddio sgiliau asesu a rhesymu clinigol i greu cynlluniau triniaeth sy’n addas i gyflwr y cleifion.
Mae’n bosib y cewch chi eich trin fel claf allanol, a hynny fel unigolyn neu mewn grŵp, neu mae’n bosib y byddwch chi’n cael eich trin ar y ward fel claf mewnol.
Sicrhewch eich bod chi’n gwisgo dillad llac ac esgidiau gyda sodlau gwastad ar gyfer eich asesiad.
Gweler y Gwasanaethau Cysylltiedig am fwy o wybodaeth.
Cysylltwch â ni
Ar gyfer pob apwyntiad, cysylltwch â’n Canolfan Ffisiotherapi ar 01443 715012.