Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau brys i wasanaethau strôc yng Nghwm Taf Morgannwg

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth fanwl a Cwestiynau Cyffredin ategol, ynghylch y newidiadau brys sy’n cael eu gwneud i wasanaethau strôc ysbytai yng Nghwm Taf Morgannwg o’r wythnos yn dechrau ar 6 Ionawr 2025.

Ddiwedd Hydref 2024, oherwydd gwaith atgyweirio brys ar y to oedd ei angen yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd angen i ni wneud newidiadau brys i'n gwasanaethau strôc a symud gwasanaethau strôc brys o Ysbyty Tywysoges Cymru i Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Ein blaenoriaeth fel Bwrdd Iechyd yw sicrhau y gall cleifion barhau i gael gafael ar ofal a thriniaeth sy'n achub bywydau, a ddarperir gan weithlu strôc arbenigol a gwydn. 

O'r wythnos sy'n dechrau ar 6 Ionawr, bydd staff a gwasanaethau arbenigol ar gyfer y rhai sydd angen triniaeth frys a gofal am strôc yn cael eu lleoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg (YBM) yn Llantrisant.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Cwestiynau Cyffredin isod.

Am fwy o wybodaeth am beth i'w wneud os ydych chi neu rywun annwyl yn profi symptomau strôc, ewch i:  GIG 111 Cymru - Gwyddoniadur : Strôc

Dilynwch ni: