Dull newydd o hunanreoli i bobl sy'n byw gyda chyflwr iechyd tymor hir neu i bobl sy'n ofalwyr. Mae Time4me @Cwmtaf EPP Cymru yn Rhaglen Hunanreoli gan y GIG i bobl sy'n byw gydag unrhyw gyflwr iechyd tymor hir. Mae'n helpu pobl i wella ansawdd eu bywyd trwy ddysgu gwahanol sgiliau i reoli eu cyflwr yn well o ddydd i ddydd.
Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth |
|
Mae ar gael i grwpiau o 8-16 o bobl sydd dros 18 oed gydag amrywiaeth o wahanol gyflyrau. Mae chwe sesiwn wythnosol o 2 awr a hanner yr wythnos. Bydd yn gwrs strwythuredig dan arweiniad dau diwtor hyfforddedig sydd â phrofiad o fyw gyda chyflwr tymor hir, neu o ofalu am rywun sydd â chyflwr tymor hir.
Gellir atgyfeirio unrhyw un dros 18 oed neu gallwch chi ddod atom ni eich hun.
Mae pob sesiwn yn edrych ar ffyrdd i helpu i reoli effeithiau cyflwr tymor hir megis:
Mae mwyafrif y tiwtoriaid ar y cwrs yn wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi i gyflwyno'r cwrs. Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal mewn lleoliadau addas mewn cymunedau lleol ac yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, oherwydd Covid 19, rydym yn cynnig y cyrsiau hyn trwy Microsoft Teams ar lein. Byddwn yn eich helpu i ddefnyddio'r platfform hwn.
Mae cyrsiau EPPtime4me Cymru wedi'u cynllunio i redeg ochr yn ochr â Rhaglenni Triniaeth ac Addysg i Gleifion ar gyfer Cyflyrau Penodol a ddarperir gan Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol. Mae'r cwrs yn helpu pobl i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder sydd eu hangen i reoli eu cyflwr yn well o ddydd i ddydd, gan eu gwneud yn llai dibynnol ar Raglenni Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae adolygiad o holiaduron cyfranogwyr wedi tynnu sylw at rai o'r buddion y gall cyrsiau EPP eu cynnig i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'r gymhariaeth o fesurau 'cyn ac ar ôl' y cyrsiau yn dangos 4-6 mis ar ôl cwblhau'r cwrs:
Y cyrsiau sydd ar gael yw:
Os ydych chi'n adnabod claf a fyddai'n elwa o fynychu un o'n cyrsiau Hunanreoli, rhowch y wybodaeth iddo a'i annog i gysylltu â thîm EPP Cymru lleol. Manylion cyswllt |
Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.eppwales.org