Neidio i'r prif gynnwy
Nicola Miligan

Staff

Amdanaf i

Staff

Dechreuodd Nicola ei hyfforddiant i fod yn nyrs ym 1986, a gweithiodd fel Nyrs Gofrestredig am 11 mlynedd yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Graddiodd fel Nyrs Iechyd Cyhoeddus Arbenigol yn y Gymuned wedi hynny (Ymwelydd Iechyd), ac mae’n gweithio yn ein cymunedau ers 22 mlynedd.

Mae Nicola wedi gweithio i sawl Ymddiriedolaeth a Bwrdd Iechyd, ac yn fwyaf diweddar dychwelodd yn 2015 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae hi wedi bod yn gynrychiolydd Undeb Llafur i'r Coleg Nyrsio Brenhinol ers 2014, yn rhan-amser i ddechrau ond yn fwy diweddar mae’n gweithio’n llawn amser yn y rôl honno.

Daeth Nicola yn Aelod Annibynnol yn 2018, ac mae'n aelod o'r Pwyllgorau Bwrdd canlynol:

  • Ansawdd a Diogelwch
  • Cynllunio, Perfformiad a Chyllid
  • Pobl a Diwylliant (Is-gadeirydd)
  • Cronfeydd Elusennol
  • Taliadau a Thelerau Gwasanaeth