Ar 1 Ebrill 2021, daeth contract Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg â Patient Knows Best i ben.
Da iawn, iawn i Ben Peever, 19 oed o Glynrhedynog, a osododd her iddo’i hun i redeg hanner marathon (13.1 milltir) trwy gydol mis Mawrth i godi arian ar gyfer pecyn C.A.RE. (‘compassion and respect for every loss’) i deuluoedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd wedi colli anwyliaid.
Yn gyntaf oll, hoffem ni ddiolch i chi am eich amynedd ac am dealltwriaeth o ran ein rhestr wth gefn.
BIP Cwm Taf Morgannwg yn creu rhestr wrth gefn ar gyfer brechiadau rhag COVID-19
Flwyddyn ar ôl agor Uned Ddydd Lawfeddygol Frys yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae amseroedd triniaeth ac asesu wedi gwella’n ddramatig, ac mae gostyngiad wedi bod yn y nifer o bobl sydd angen cael eu derbyn i’r ysbyty.
Bydd canolfan gofal sylfaenol newydd sbon yn agor ei drysau yn Mountain Ash yr wythnos nesaf, gan ddod â gwasanaethau gofal iechyd modern i'r gymuned leol.
Yn ôl adroddiad newydd, amcangyfrifir bod y profion torfol â dyfeisiau llif unffordd ym Merthyr Tudful ac yn rhan isaf Cwm Cynon wedi atal 353 o achosion o COVID-19, 24 o achosion o orfod mynd i’r ysbyty, 5 achos o orfod mynd i uned gofal dwys ac 14 o farwolaethau;
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu bod bron i 12,500 o gleifion ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) wedi gallu cael ymgynghoriadau meddygol o hyd yn ystod pandemig Covid-19, er nad oedden nhw’n gallu ymweld â'r feddygfa neu leoliad gofal iechyd arall yn bersonol.
Mae Canolfan Ymchwil Glinigol newydd, i wella gwaith ymchwil BIP Cwm Taf Morgannwg ac i gynnig therapïau, triniaethau a therapiwteg newydd i gleifion, wedi agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Mae model arloesol, amlddisgyblaethol o roi triniaeth i gleifion gyda chlefydau’r ysgyfaint yn lleihau amseroedd aros yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi gwneud y penderfyniad ar y cyd i beidio ag agor canolfan frechu gymunedol yn Aberfan.
Gofynnir i breswylwyr yn ardal Ffordd Abertawe ym Merthyr Tudful fod yn wyliadwrus ychwanegol am arwyddion a symptomau COVID-19 yn dilyn clwstwr o achosion yn yr ardal.
Mae cleifion sy’n mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda mân anaf yn hwyr yn y nos yn cael dewis rhwng aros i gael eu gweld neu ddychwelyd y diwrnod wedyn am apwyntiad wedi’i drefnu, o dan gynllun newydd sy’n cael ei dreialu i leihau amseroedd aros.
Ar 19 Chwefror 2021, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ymgyrch ymgysylltu gyhoeddus newydd ar gyfer cynigion arfaethedig i Rwydwaith Gwasanaethau Fasgwlar De-ddwyrain Cymru.
Mae gwasanaeth Noddfa Lles arloesol yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig lle diogel, anghlinigol i bobl sydd gyda phroblemau iechyd meddwl ac sy’n wynebu trallod.
Rhoddir rhybudd trwy hyn y cynhelir cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Dydd Iau, 25 Mawrth 2021 am 10: 00 am.
Datganiad gan Gareth Robinson, Prif Swyddog Gweithredol, Cwm Taf Morgannwg UHB
Mae meddyg ymgynghorol blaenllaw ym maes canser o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn erfyn ar bobl gyda symptomau pryderus o ganser i fynd i weld eu meddyg teulu ac i gadw eu hapwyntiadau am brofion a thriniaeth, a hynny er gwaethaf y cyfnod clo.
Mae Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rhaglen Profi Cymunedol yn cychwyn ledled ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o ddydd Mercher 3 Mawrth.
Mae gwasanaethau newydd sydd wedi eu cyflwyno gan y GIG yn ystod pandemig COVID-19 wedi annog mwy na thraean o bobl sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (36%) i ailystyried y ffordd y byddan nhw’n mynd ati i gael cymorth am broblemau gofal iechyd sydd ddim yn frys yn y dyfodol. Dywedodd dim ond 13% hefyd y byddan nhw’n ystyried cael gofal meddygol brys mewn ffyrdd eraill.