Neidio i'r prif gynnwy

Uned Anadlol Symudol arloesol yn cefnogi cleifion y mae salwch anadlol cronig yn effeithio arnynt yng Nghwm Taf Morgannwg

Uned Anadlol Symudol

Mae heddiw (25 Hydref) yn nodi diwedd cynllun peilot gofal iechyd arloesol 6 mis (Mai-Tachwedd 22) a oedd yn cynnwys Byrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda, Arloesedd Anadlol Cymru (RIW) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. 

Mae un o bob deuddeg o bobl yn cael ei effeithio gan salwch anadlol yng Nghymru, ac yma ceir y nifer mwyaf o achosion o asthma yn Ewrop.   

Yn sgil pandemig COVID-19, roedd hi’n anodd iawn cael mynediad at wasanaethau profi diagnostig anadlol yn GIG Cymru.  Oherwydd COVID, bu’n rhaid i wasanaethau ysbytai amsugno profion cymunedol oherwydd gweithdrefnau gweithredu newydd ar gyfer rheoli’r risg o haint, gan ei gwneud yn anodd iawn i wasanaethau gael eu darparu yn y gymuned. 

Gan weithio ar y cyd, daeth yr holl bartneriaid at ei gilydd i ddod o hyd i ateb arloesol i sicrhau bod cleifion ar restr aros am brofion anadlol yn gallu cael eu gweld, a chael diagnosis o bosibl, cyn gynted â phosibl. 

Comisiynwyd Uned Anadlol Symudol a dechreuodd weld ei chleifion cyntaf yng nghymunedau Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda o 10 Mai, 2022. 

Dechreuodd yr uned glinigol hunangynhwysol, a weithredwyd gan staff (anadlol) y Byrddau Iechyd, gynnal dau brawf diagnostig allweddol ar gyfer cyflyrau anadlol. 

Yn gyntaf, wrth gyrraedd yr uned, mae staff yn profi cynhwysedd aer ysgyfaint claf, a elwir yn brawf sbirometreg.   Yna, os bydd angen, cynhelir prawf diagnostig pellach ar gyfer asthma, a elwir yn brawf FeNO.  Yn dibynnu ar y canlyniadau, caiff y claf ei atgyfeirio at ei feddyg teulu i gael cymorth a thriniaeth gofal iechyd bellach.   

Arloesedd Anadlol Cymru (RIW)

Dywedodd Denise Lowry, Pennaeth Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn BIP CTM:

“Mae’r Uned hon wedi caniatáu i ni fynd â phrofion diagnostig i galon ein cymunedau lleol, gan ein galluogi i weld cleifion sydd wedi bod yn aros am brofion, rhoi’r canlyniadau i’w meddygon teulu a darparu gofal yn llawer agosach at adref.  Gyda'r prosiect bellach wedi'i gwblhau, bydd gwerthusiad llawn yn dechrau.  

“Ar ddiwrnod olaf gwasanaeth yr Uned, mae wedi bod yn wych dod â’n holl bartneriaid ynghyd a chlywed gan rai o’n cleifion.  Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y cynllun peilot hwn ond hoffem ddiolch yn arbennig i'n timau anadlol yn CTM a Hywel Dda sydd wedi trefnu’r system apwyntiadau i gleifion mewn clinigau mor hyfedr ac effeithlon ac sydd wedi darparu gwasanaeth gofal sy’n canolbwyntio cymaint ar yr unigolyn”.

Mae'r uned wedi bod yn symud i wahanol leoliadau rhwng y ddau Fwrdd Iechyd bob un wythnos. 

Gweithiodd EMS Healthcare gyda ni i gynllunio unedau gofal wedi'u canoli gan ddad-ganoli ar gyfer eu defnyddio o fewn GIG Cymru.

Cafodd Prosiect yr Uned Anadlol Symudol ei gymeradwyo a'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru. 

Ar ddiwedd y prosiect, mae 902 o gleifion wedi cael eu profi yn yr Uned Anadlol Symudol.

 

 

25/10/2022