Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Mamolaeth yn CTM yn symud allan o Fesurau Arbennig

Heddiw mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi bod gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi symud allan o Fesurau Arbennig. Mae ei datganiad ysgrifenedig yn cydnabod gwelliannau yn y gwasanaeth ar gael yma: Datganiad Ysgrifennedig: Y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth – Adroddiad Cynnydd Medi 2022 (7 Tachwedd 2022)

Mae datganiad y Gweinidog yn dilyn cyhoeddi heddiw yr adroddiad cynnydd terfynol gan y Panel Goruchwylio Gwasanaethau Mamolaeth Annibynnol y gallwch ei ddarllen yma: Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth: Adroddiad Cynnydd Medi 2022

Wrth siarad am adroddiad heddiw dywedodd Suzanne Hardacre, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn falch o ganfyddiadau adroddiad diweddaraf y Panel, a'r cydnabyddiaeth o ba mor bell rydyn ni wedi dod, a'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni, fel gwasanaeth. Dros y tair blynedd a hanner diwethaf mae ein timau mewn gwasanaethau newydd-anedig a mamolaeth wedi dangos ymrwymiad eithriadol i'n taith wella ac i wneud newid cadarnhaol i'n teuluoedd. Mae'r adroddiad heddiw yn dangos yn glir iawn y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud, fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod hon yn daith o welliant parhaus, a bod mwy o waith i'w wneud o hyd.

"Mae menywod a theuluoedd wastad wedi bod yng nghanol ein hymgyrch i wella, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wrando, dysgu a gwella o'u profiadau. Rydym yn gwybod bod babanod a theuluoedd newydd o fewn CTM yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd ac, er na fyddwn byth yn anghofio camgymeriadau'r gorffennol, rydym yn hyderus bod y gofal yr ydym yn parhau i ddarparu ein cymunedau yn ddiogel, yn broffesiynol ac o'r safon uchaf."

 

 

07/11/2022