Neidio i'r prif gynnwy

CTM yn lansio Cynghrair Systemau Pwysau Iach

Yr wythnos hon, daeth partneriaid o bob rhan o’r rhanbarth at ei gilydd i drafod y cyfleoedd y gallai dull system o ymdrin â phwysau iach eu cynnig i bobl ar draws y rhanbarth.

Pwysau iach yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau'r risg o gyflyrau iechyd hirdymor fel diabetes, clefyd y galon a chanserau. Rydym hefyd yn gwybod bod gordewdra a bod dros bwysau ar gynnydd, sy'n peri risg i iechyd a lles hirdymor pobl ar draws CTM.

Gyda hyn mewn golwg y daeth partneriaid at ei gilydd i drafod dull system o gefnogi pwysau iach.

Mae dull systemau yn edrych ar weithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â'r ffactorau cyfrannol niferus a allai fod yn dylanwadu ar allu unigolyn i gyrraedd neu gadw pwysau iach. Gallai hyn gynnwys y math o hysbysebion bwyd a welwn, argaeledd a fforddiadwyedd ffrwythau a llysiau, mynediad at wasanaethau hamdden lleol i’n gallu ci gerdded ein tirweddau trefol a gwledig.

Mae dull systemau hefyd yn ceisio cynnwys arweinwyr o bob sector i annog penderfyniadau iachach mewn llawer o'r meysydd allweddol hyn.

Yn ystod digwyddiad lansio'r wythnos hon daeth partneriaid at ei gilydd i archwilio sut y gallai ac y dylai dull gweithredu system edrych ar draws rhanbarth CTM; ac yn bwysicaf oll, penderfynu ar y materion allweddol y mae angen mynd i'r afael â nhw fel mater o flaenoriaeth.

Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:

“Mae gan ein rhanbarth rai o'r cyfraddau gordewdra ac anweithgarwch corfforol uchaf ledled Cymru. Os ydym am oresgyn y rhwystrau niferus sy'n atal pobl rhag byw bywydau iachach, rhaid i ni weithio gyda'n gilydd fel system gyfan, gan newid ein tirwedd ffisegol a diwylliannol i adeiladu dyfodol iachach ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

“Mae hefyd yn golygu newid y ffordd rydyn ni fel arweinwyr ar draws y sector cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, iechyd a gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y newid hwnnw'n digwydd.

“Roeddwn yn dawel fy meddwl i weld brwdfrydedd a phenderfyniad y partneriaid yn yr ystafell, y bydd eu gwybodaeth, eu profiad a'u dylanwad yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflwyno dull system gyfan o ymdrin â phwysau iach sy'n gweithio ar gyfer a gyda phobl ar draws ein rhanbarth.”

Gallwch ddarllen mwy am ddull gweithredu system gyfan tuag at bwysau iach a sut mae hynny'n cyd-fynd â strategaeth genedlaethol Pwysau Iach, Cymru Iach yma.

 

11/11/2022