Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyhoeddi ailagor yr Uned Mân Anafiadau (MIU) yn Ysbyty Cwm Cynon (YCC)

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd yr Uned yn YCC yn ailddechrau ei wasanaeth ddydd Llun, Tachwedd 7, 2022. Bydd yr uned 'galw i mewn' ar agor rhwng 9am-5pm, felly nid oes angen apwyntiadau a bydd yn trin pob mân anaf (rhestr lawn yma).

Dywedodd Neil Cooper, rheolwr cyffredinol gwasanaethau acíwt: “Mae hyn yn newyddion gwych, nid yn unig i'r holl staff sy'n rhan o'r prosiect i ailagor gwasanaethau’r Uned, ond yn enwedig i'n poblogaeth leol. Nid yn unig y bydd hyn yn darparu gwasanaeth yng nghanol Cwm Cynon ond bydd yn helpu i dynnu peth o'r galw oddi wrth Adran Achosion Brys prysur iawn yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.”

Bydd yr Uned yn parhau’n gartref i’r clinig torri esgyrn gan fod adborth cleifion am y gwasanaeth hwn, wedi cael ei symud o Ysbyty'r Tywysog Siarl, wedi bod yn gadarnhaol iawn. Bydd yr uned hefyd yn gallu cynnig gwasanaeth i blant (dros un oed) nad oeddem yn gallu ei ddarparu o'r blaen.  Gobeithio y bydd hyn o fudd enfawr i'n cymuned leol. Bydd ardal y plant yn ardal aros ar wahân o fewn y cyfleuster.

Dywedodd Nilufa Hossain, ymgynghorydd adran achosion brys ac arweinydd clinigol gwasanaethau’r Uned: “Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i YCC i ddarparu'r gwasanaeth gwerthfawr hwn i'r gymuned.  Rydym yn gwerthfawrogi amynedd y boblogaeth leol wrth i'r gwaith pwysig hwn gael ei wneud.”

Hoffai'r Bwrdd Iechyd ddiolch i'r boblogaeth leol am ein cefnogi wrth i ni weithio trwy fanylion ailagor yr uned.  Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw'r gwasanaeth i chi a heb eich cefnogaeth ni fyddem wedi gallu gwneud hyn. 

Bydd y gwasanaeth nawr yn gweithio tuag at ehangu ymhellach i gynnwys gwasanaethau mân salwch a thros amser rydym yn gobeithio y gallwn ymestyn dyddiau ac amseroedd yr uned.  Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r gymuned wrth i ni symud ymlaen.

 

 

03/11/2022