Mae bod yn bwysau iach yn cefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Mae pobl â phwysau iach yn byw yn hirach ac mae cyfran uwch yn rhydd o anabledd ac afiechyd.
Gall pwysau iach helpu i atal nifer o afiechydon cronig gan gynnwys diabetes, clefyd y galon, canser a strôc, yn ogystal â lleihau effaith cyflyrau eraill fel arthritis.
Mae tîm Pwysau Iach Cwm Taf Morgannwg yn gweithio’n agos gydag Awdurdodau Lleol, grwpiau cymunedol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol i adeiladu cymunedau iachach, lle mae'r dewis iach yn ddewis hawdd a phobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau iach, hapus a ffyniannus. Mae’r dull system gyfan hwn yn canolbwyntio ar y darlun ehangach yn hytrach na cheisio newid un peth bach ar y tro.
Creu cymunedau iachach gyda'i gilydd
Mae gan raglen Pwysau Iach Cwm Taf Morgannwg dair taith fel rhan o'r agenda Creu Iechyd o fewn CTM2030. Dyma'r rhain:
Rydyn ni eisiau arwain newid yn y ffordd rydyn ni'n siarad ac yn meddwl am ordewdra yn CTM, a chefnogi'r holl randdeiliaid i ddeall eu rôl wrth gefnogi babanod sy'n cael eu geni heddiw i dyfu i fod yn bwysau iach.
Gweithio gyda rhanddeiliaid eraill i achub ar gyfleoedd i ddylunio CTM yn well trwy siapio ein hamgylchedd fel ei fod yn cefnogi unigolion sy’n byw ac yn gweithio yn CTM i fyw bywydau iachach
Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd ar draws y system gyfan i wneud mwy o’r pethau y credwn fydd yn ail-lunio ein hamgylchedd drwy gynyddu mynediad ein rhanddeiliaid at ddata, gwybodaeth a thystiolaeth ar beth sydd fwyaf tebygol o atal gordewdra mewn CTM – fel y gallan nhw wneud ceisiadau cyllid mwy effeithiol a chynyddu gallu atal ar draws CTM. Bydd yn cynnwys cynllunio polisïau a strategaethau sy’n creu’r amodau ar gyfer gwell iechyd i genedlaethau’r dyfodol, cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ar ymyriadau pwysau iach sy’n gweithio a chefnogi rhanddeiliaid i ail-lunio ein hamgylchedd fel mai ‘iach’ yw’r dewis hawsaf a mwyaf cyfleus. Ar yr un pryd byddwn yn darparu cefnogaeth ddiwyro i unigolion sydd eisoes yn cael trafferth gyda gordewdra ac sy'n ymdrechu i fyw bywydau iach, hapus a llewyrchus.
Wrth wraidd ein strategaeth mae dull cyfannol, system gyfan, sy’n canolbwyntio ar y ffactorau parhaol, gwaelodol sy’n gyrru gordewdra yn hytrach na dim ond mynd i’r afael ag ymddygiadau unigol ar eu pen eu hunain.
Bydd y meysydd uchod yn cael eu gweithio drwy'r themâu canlynol a nodir isod:
I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach Llywodraeth Cymru, ewch i Pwysau Iach: Cymru Iach.
I gael rhagor o wybodaeth am Bwysau Iach yng Nghymru, ewch i Gorbwysau a Gordewdra - Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Bwysau Iach yn ardal Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â CTM.HealthyWeight@wales.nhs.uk.