Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif yn ddull newid ymddygiad sy’n defnyddio’r sgyrsiau bob dydd y mae sefydliadau ac unigolion yn eu cael gyda phobl eraill i’w cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol i’w hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol.
Trwy Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif, mae’n bosibl manteisio ar gyfleoedd i roi gwybodaeth gyson a chryno am ffyrdd iach o fyw ac mae’n galluogi unigolion i gymryd rhan mewn sgyrsiau am eu hiechyd ar draws sefydliadau a phoblogaeth.
Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae GBCG yn canolbwyntio ar y ffyrdd o fyw sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’n hiechyd:
Mae tîm GBCG yn cefnogi darparu hyfforddiant i staff ar draws Awdurdodau Lleol, y GIG a’r trydydd sector yn ardal Cwm Taf Morgannwg.
I gael rhagor o wybodaeth am GBCG yng Nghymru, ewch i Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif - Iechyd Cyhoeddus Cymru / Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus MECC (Amdanom ni).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am GBCG yn ardal Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â PHW-MECC.CTM@wales.nhs.uk.