Gellir cyfeirio at ddealltwriaeth o iaith hefyd fel iaith dderbyniadol neu ddealltwriaeth. Dyma'r gallu i wneud synnwyr o wybodaeth lafar.
Efallai fydd plant sydd ag anawsterau deall iaith wneud y canlynol:
- Peidio â dilyn cyfarwyddiadau’n gywir
- Ymddangos fel ei fod yn eich anwybyddu
- Ailadrodd y cyfan/rhannau o gwestiynau a chyfarwyddiadau yn hytrach nag ymateb iddyn nhw
- Ailadrodd geiriau neu ymadroddion yn hytrach na chynhyrchu rhai eu hunain
- Dilyn trefn yr ystafell ddosbarth trwy wylio beth y mae plant eraill yn ei wneud
- Dod o hyd i weithgareddau sy'n dibynnu ar wrando ar iaith yn anodd ymdopi â nhw
- Meddu ar sgiliau darllen mecanyddol da ond does dim ddealltwriaeth wirioneddol e.e. yn gallu darllen llyfr ond methu ateb cwestiynau am beth y maen nhw wedi'i ddarllen
- Cael anhawster cofio gwybodaeth
- Defnyddio strategaethau i guddio anawsterau deall e.e. newid y pwnc neu wylio wyneb y siaradwr i ddyfalu'r ateb
Strategaethau i gefnogi dealltwriaeth o iaith yn yr ysgol
- Enillwch sylw'r plentyn cyn siarad trwy ddweud ei enw neu drwy ysgogiadau corfforol, fel cyffwrdd â'i fraich
- Ceisiwch leihau ymyriadau
- Byddwch yn ymwybodol o lefel dealltwriaeth y plentyn
- Symleiddiwch eich geirfa (geiriau) a'ch brawddegau
- Lleihewch hyd eich brawddeg, gan dorri'n ddarnau byrrach
- Ailadroddwch eiriau allweddol ac aralleirio cyfarwyddiadau yn ôl yr angen
- Siaradwch yn araf — defnyddiwch saib a phwyslais i dynnu sylw at y wybodaeth allweddol
- Defnyddiwch awgrymiadau gweledol i gefnogi eich iaith e.e. ystum, lluniau, gwrthrychau, mapio meddwl
- Rhowch ddigon o amser i'r plentyn wrando ac ymateb
- Gwiriwch fod y plentyn yn deall y dasg (e.e. gofynnwch iddo ailadrodd neu aralleirio'r cyfarwyddyd)
- Anogwch y plentyn i ofyn am gymorth os nad yw rhywbeth yn cael ei ddeall
- Rhowch amser ychwanegol ar gyfer dysgu cysyniadau a geirfa newydd
- Ceisiwch osgoi defnyddio cysyniadau haniaethol fel “cyn” neu “ar ôl” wrth roi cyfarwyddiadau
- Anogwch y plentyn i ddefnyddio strategaethau wrth brosesu gwybodaeth, fel ymarfer y cyfarwyddyd yn dawel, neu nodi geiriau pwysig yn y cyfarwyddiadau
- Anogwch y plentyn i ofyn am gymorth pan nad yw'n siŵr beth i'w wneud
Dechreuwch trwy roi cynnig ar rai o'r awgrymiadau sy’n cael eu darparu. Os bydd eich pryderon yn parhau, gallwch drefnu cyfarfod gydag athro dosbarth eich plentyn neu CADY yr ysgol (Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol). Gallan nhw rhoi mwy o fewnwelediad ar sut mae'ch plentyn yn cyfathrebu yn yr ysgol.
Mae llawer o ysgolion yn brofiadol o gynnal sgrinio iaith a lleferydd er mwyn adnabod plant y gallai fod angen cymorth arnyn nhw. Mae'r sgrinio hyn yn helpu i greu rhaglenni wedi'u teilwra y gall staff ysgol hyfforddedig eu gweithredu. Yn aml, dyma'r holl gefnogaeth sydd ei hangen ar eich plentyn.
Mewn rhai achosion, gall ysgolion hefyd weithio gydag Athrawon Arbenigol, sydd â hyfforddiant ychwanegol mewn Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu. Os nad yw'ch plentyn yn dangos cynnydd gyda'r rhaglen yn yr ysgol, gall athrawon drafod datblygiad eich plentyn gydag Athro Arbenigol. Mae'r athrawon hyn yn cydweithio'n agos â Therapyddion Iaith a Lleferydd y GIG, a all gynnig arweiniad ynghylch a oes angen cymorth pellach.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd atgyfeiriad at wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd y GIG yn briodol ar gyfer asesiad a chyngor. Mae staff yr ysgol yn y sefyllfa orau i ddarparu gwybodaeth am sut mae cyfathrebu eich plentyn yn effeithio ar ei ddysgu a'i berthynas. Gallan nhw hefyd rannu pa gymorth y maen nhw eisoes wedi'i rhoi ar waith i gynorthwyo datblygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu eich plentyn. O ganlyniad, rydym yn argymell eu bod nhw’n atgyfeirio'ch plentyn at y gwasanaeth.
Mae rhagor o wybodaeth i gefnogi cyfathrebu hefyd ar gael drwy: