Os ydych chi'n parhau i gael pryderon ynghylch lleferydd, iaith, cyfathrebu neu sgiliau bwyta/yfed eich plentyn, mae croeso i chi atgyfeirio eich plentyn at y gwasanaeth.
Mae'r rhan fwyaf o'n hatgyfeiriadau'n dod gan weithwyr proffesiynol. Fel arfer gallant roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ni a gallant yn aml roi rhywfaint o gefnogaeth gychwynnol ar waith. Siaradwch ag Ymwelydd Iechyd neu Athro eich plentyn ynglŷn ag atgyfeirio at therapi lleferydd ac iaith.
Fel arall, mae croeso i chi hunan-atgyfeirio. Cwblhewch y 'Ffurflen Gais am Gymorth' a'i dychwelyd i CTM.ReferralsChildrensSLT@wales.nhs.uk.