Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy mhlentyn yn ei chael hi'n anodd cyfleu ei ddymuniadau a'i anghenion

Mae rhai plant yng nghyfnodau cynnar datblygiad iaith yn araf i ddatblygu ffyrdd o gyfleu beth maen nhw ei eisiau neu ei angen. Gallai hyn gynnwys datblygu:

  • Pwyntio i ddangos pethau i chi
  • Pwyntio neu estyn i ofyn am eitemau
  • Dod â phethau i chi ofyn am help, neu i'w rhannu
  • Defnyddio mynegiant eu hwyneb neu ystumiau i ddangos i chi beth maen nhw'n ei feddwl a'i deimlo
  • Defnyddio geiriau

Efallai bydd plant sydd ag anawsterau mynegi eu hunain yn:

  • Crio neu gynhyrfu, ond fyddan nhw ddim yn dangos i chi beth yw'r broblem
  • Bod mewn cyfnod datblygiad cynharach nag y byddech chi'n ei ddisgwyl ar gyfer eu hoedran, er enghraifft defnyddio pwyntio yn hytrach na geiriau pan maen nhw'n ddwy oed

Strategaethau i gefnogi datblygu sgiliau cyfathrebu cynnar:

Mae ymchwil yn dangos, i blant sy'n cael anhawster i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cynnar, y bydd sut rydych chi'n rhyngweithio yn eu helpu i ddatblygu.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd atgyfeiriad at wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd y GIG yn briodol ar gyfer asesiad a chyngor. Dylai eich Ymwelydd Iechyd, lleoliad neu ysgol allu eich helpu gyda hyn.

Mae rhagor o wybodaeth i gefnogi cyfathrebu hefyd ar gael drwy:

Dilynwch ni: