Mae cyfathrebu plant yn datblygu mewn 4 cam:
| Lefel Cyfathrebu | Beth sy'n cael ei gyfarthrebu? | Beth allwch chi ei wneud i helpu? |
|
Cyn-fwriadol (Gwneud sain heb ystyr) |
Ymatebion awtomatig i'w gorff ei hun neu'r amgylchoedd. Ymateb yn y bôn i hoff bethau, cas bethau a dymuniadau. Defnyddio seiniau neu symudiadau syml e.e. crio, dod yn llonydd, gwenu. Mae oedolyn yn dehongli'r cyfathrebu di-eiriau hwn. Edrychwch ar neu estyn am beth mae ei eisiau. Ddim yn deall eto y gall anfon neges yn uniongyrchol at berson arall. |
Rhowch wybod iddynt y gall eu gweithredoedd a'u synau fod ag ystyr. Gwnewch eich hun ar gael mewn ffordd chwareus a diddorol. Edrychwch i weld beth yw gweithredoedd y plentyn/pa synau mae’n eu lleisio a dynwaredwch. Gallwch ymestyn y rhyngweithiadau, gan gynyddu’r cynnwys a’r hyd. Animeiddiwch wrthrychau o ddiddordeb ac arhoswch i'r plentyn ymateb. |
|
Rhagweledol (Defnyddio synau/ystumiau/symudiadau gan ddangos disgwyliad o ddigwyddiadau a phatrwm arferion cyfarwydd) |
Dechrau deall trefn gyfarwydd. Dechrau rhagweld beth fydd yn digwydd. Yn lleisio ac yn defnyddio ystod o seiniau i ddangos hoff bethau a chas bethau. Yn defnyddio ystod gyfyng o gyfathrebu di-eiriau. Gall ysgogi rhyngweithio mewn trefn gyfarwydd. Dechrau adnabod gwrthrychau bob dydd. |
Helpwch y plentyn trwy oedi yn ystod trefn gweithgaredd cyfarwydd fel y gall ddangos i chi ei fod yn gwybod beth sydd nesaf.
Gwnewch eich hun yn rhan o'r broses. Caniatewch amser ar gyfer y disgwyliad. Arwain ac yna oedi/aros i'r plentyn ymateb. Dehongli pob cyfathrebiad Modelwch eiriau allweddol. |
|
Bwriadol (Defnyddio synau/ystumiau/symudiadau i gyfleu neges) |
Gallant ddilyn cyfarwyddiadau cyfarwydd os gallant weld beth sydd rhaid iddynt ei wneud. 'Negeseuon' pwrpasol yn cael eu cyfleu heb eiriau e.e. 'mae wedi mynd', 'mwy'. Gemau cymryd tro ac ailadroddus. Cyfleu anghenion trwy wthio llaw oedolion at eitemau, gan arwain â llaw. Ystod eang o gyfathrebu di-eiriau e.e. mynegiant wyneb, ystumiau llaw. Cais am gêm gorfforol i barhau trwy ddefnyddio cyfathrebu di-eiriau, gan gynnwys cyswllt llygad. Deall a chwarae gyda gwrthrychau bob dydd. |
Cael sylw'r plentyn yn gyntaf. Rhowch label ar bethau. Rhowch sylwadau ar beth mae eich plentyn yn ei wneud/eisiau gydag un neu ddau o eiriau. Ymestynnwch ddefnydd y plentyn o gyfathrebu di-eiriau trwy ddangos enghreifftiau o gyfathrebu di-eiriau yn gyson. Adeiladwch ar chwarae’r plentyn, gyda chi ac eraill. Cymryd troeon. Defnyddiwch ymadroddion cadarnhaol. |
|
Geiriau a syniadau (Defnyddio geiriau ag ystyr) |
Dechrau defnyddio geiriau cyntaf fel “na” “ie” “eisiau” “fy un i” “fe/hi” “hynny”. Angen oedolyn i fodelu iaith. Angen oedolyn i ymateb. Gall gychwyn rhyngweithio, 1 neu 2 dro. Gallu didoli gwrthrychau. Gallu perthnasu dol mawr i'ch hunan/person arall. |
Rhowch sylwadau ar beth mae'r plentyn yn edrych arno/yn ei wneud. Cadwch eich sylwadau yn syml gan ddefnyddio 1-2 gair. Ailadrodd ailadrodd ailadrodd. Modelwch eiriau sengl sy'n ddefnyddiol i'r plentyn (e.e. diod, cot, esgidiau). Modelu sut i ddefnyddio/chwarae gyda theganau yn briodol. Osgoi cwestiynau. |