Neidio i'r prif gynnwy

Mae fy mhlentyn yn gallu siarad ond nid yw'n siarad mewn rhai mannau, e.e. meithrinfa/ysgol

Ydy eich plentyn yn siarad llawer gartref ond mae'r ysgol yn disgrifio plentyn gwahanol iawn?

Fydd ef/hi’n siarad â rhai aelodau o'r teulu ond nid pawb?

Ydy hyn yn swnio fel eich plentyn chi?

  • Nid yw'n siarad yn yr ysgol neu'n siarad ychydig iawn er ei fod yn siarad mewn lleoliadau eraill
  • Mae ef/hi wedi bod yn yr ysgol ers dros fis ac yn dal ddim yn siarad
  • Gall ef/hi gyfathrebu a siarad yn dda mewn rhai lleoliadau
  • Weithiau mae ef/hi’n pwyntio neu’n defnyddio ffyrdd eraill o gyfathrebu e.e. ystumio

Gallai fod gan eich plentyn Mudandod Dethol

Beth yw Mudandod Dethol?

Mae mudandod dethol yn anhwylder gorbryder sy'n golygu y gall plant siarad yn rhydd mewn rhai sefyllfaoedd ond nad ydyn nhw’n gallu siarad mewn eraill. Efallai y bydd ganddyn nhw ddigon i'w ddweud pan fyddan nhw’n teimlo'n gyfforddus (gydag aelodau agos o'r teulu gartref) ond ddim yn gallu siarad yn rhydd mewn sefyllfaoedd eraill fel ysgol/meithrin neu gyda phobl anghyfarwydd. Nid yw hwn yn ddewis i'r plentyn a gellir disgrifio mudandod dethol fel ffobia o siarad, lle mae plant yn profi panig ac efallai byddan nhw’n rewi.

Pethau a all helpu

Dyma rai strategaethau a fydd yn helpu plant i deimlo'n fwy cyfforddus a pheidio â bod o dan unrhyw bwysau i siarad.

  • Rhowch sicrwydd i'r plentyn eich bod chi'n deall bod siarad weithiau'n anodd iddyn nhw
  • Ymatebwch yn gynnes i unrhyw ymdrechion i gyfathrebu
  • Osgowch ofyn cwestiynau a defnyddio sylwadau yn lle hynny e.e.
  • yn hytrach na "beth ydych chi wedi'i dynnu llun o?" dywedwch "Rwy'n hoffi eich llun, am dŷ gwych" 
  • yn hytrach na ''beth yw dy hoff fwyd?'' dywedwch ''Fy hoff fwyd yw cyw iâr, Tybed beth yw dy hoff fwyd ti''
  • Osgowch lwgrwobrwyo neu roi pwysau ar blant i siarad gan fod hyn yn debygol o wneud pethau'n waeth.
  • Pan fydd y plentyn yn siarad â chi, peidiwch â thynnu unrhyw sylw ato ac ymatebwch yn naturiol.

Beth i'w ddweud pan....

  • Bydd oedolion yn rhoi pwysau ar blentyn i siarad e.e. "wyt ti'n mynd i siarad â mi heddiw?" neu "pam nad yw’n siarad?"

Bydd yn ddefnyddiol gwneud sylw cadarnhaol fel nad yw'r plentyn yn teimlo ei bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le e.e. ''Mae Sarah yn mwynhau gwrando heddiw'' neu ''mae hynny'n beth doniol i'w ddweud ydy hi?''

  • Nad yw'ch plentyn yn gallu siarad mewn sefyllfa benodol e.e. ateb cwestiwn gan ddieithryn

Ailadroddwch y cwestiwn i'r plentyn neu newidiwch y cwestiwn i'w gwneud hi'n haws iddo ateb e.e. os bydd rhywun yn gofyn pa flas o hufen iâ yr hoffai'r plentyn ei gael, gallech roi dewis iddo (fanila neu siocled) neu ofyn ''Fyddet ti'n hoffi siocled?'' ac efallai y bydd y plentyn yn gallu nodio neu ysgwyd ei ben.

Cymorth a chefnogaeth bellach

Os ydych chi'n teimlo y gallai eich plentyn neu blentyn rydych chi'n gweithio gydag ef/hi fod yn profi gorbryder am siarad, cwblhewch y 'Ffurflen Cais am Gymorth' a'i dychwelyd i: CTT_Childrenspeechandlanguage@wales.nhs.uk

Os yw'ch plentyn yn mynychu'r ysgol ar hyn o bryd, efallai y bydd yn ddefnyddiol llenwi'r ffurflen atgyfeirio gyda’i athro.

Mae'r gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd yn cydweithio â theuluoedd a lleoliadau addysg drwy ddarparu gwybodaeth, hyfforddiant a chyngor i gefnogi cyfathrebu'r plentyn. Rydym yn croesawu atgyfeiriadau i blant a allai fod yn profi gorbryder ynglŷn â siarad sydd o oedran ysgol gynradd.

Adnoddau Defnyddiol ac Arwyddio

 

Dilynwch ni: