Beth yw Cyfathrebu?
Cyfathrebu yw cyfnewid gwybodaeth trwy siarad, ysgrifennu, arwyddo, defnyddio symbolau ac ati.
Mae dysgu cyfathrebu yn broses gymhleth. Mae plant yn dysgu cyfathrebu â'r rhai o'u cwmpas mewn sefyllfaoedd bob dydd. Gall plant cyfathrebu mewn sawl ffordd wahanol, er enghraifft gall eich plentyn eich arwain wrth eich llaw at rywbeth maen nhw ei eisiau, neu gallan nhw bwyntio neu wneud ystum am eitem. Os yw eich plentyn yn gwneud hyn, mae’n dal i gyfathrebu â chi ac yn rhoi gwybod i chi beth mae’n ei eisiau.
Mae angen i blant glywed gair sawl gwaith cyn iddyn nhw ei ddeall a'i ddefnyddio eu hunain. Gall plentyn gymryd peth amser rhwng deall gair a'i ddefnyddio drosto'i hun. Mae'n gyffredin i blant ddeall geiriau nad ydyn nhw'n eu defnyddio eto.
Erbyn i blentyn gael hyd at 50 o eiriau, mae’n dechrau rhoi rhai geiriau at ei gilydd, e.e. 'hwyl fawr mam' 'mwy o swigod' ac ati.
Sut allwch chi helpu eich plentyn i ddweud mwy o eiriau a rhoi mwy o eiriau at ei gilydd?
Chwarae
Mae plant yn dysgu drwy chwarae, felly'r ffordd fwyaf naturiol o ddysgu iaith yw drwy chwarae gyda nhw.
Gweler y cyngor isod ar sut allwch chi wneud y gorau o gyfleoedd chwarae gyda'ch plentyn.
Cwestiynau
Lleihewch nifer y cwestiynau rydych chi'n eu gofyn i'ch plentyn, yn lle hynny modelwch eiriau newydd i'ch plentyn ei glywed. Gallwch wneud hyn drwy enwi pethau mae eich plentyn yn chwarae gyda ac ailadrodd y geiriau hyn sawl gwaith. E.e. 'llyfr! Mae'n llyfr mawr!’
Ehangu
Mae ehangu beth mae eich plentyn wedi'i ddweud yn ffordd wych o ddangos iddo y gall gysylltu geiriau â'i gilydd. Os yw eich plentyn yn dweud 'car', gallech ehangu hyn trwy ychwanegu gair wrth ei ymyl, e.e. 'ie, car cyflym' neu 'car glas'.
Creu cyfleoedd
Rhowch rai teganau allan o gyrraedd neu mewn bocsys sy'n anodd eu hagor, bydd hyn yn rhoi cyfle i'ch plentyn ddod atoch chi i ofyn am gymorth. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'ch plentyn gyfathrebu â chi.
Rhowch ddewisiadau
Yn ystod trefn dyddiol (fel golchi, gwisgo ac amseroedd prydau bwyd) cynigiwch rai dewisiadau i'ch plentyn. Gallai hyn fod a ydyn nhw eisiau banana neu iogwrt neu a ydych chi'n golchi eu traed yn gyntaf neu eu gwallt yn gyntaf. Pan fyddwch chi'n cynnig y dewisiadau hyn, rydych chi'n modelu geiriau ar ei cyfer. Un ffordd gall ef/hi ymateb yw trwy afael yn yr eitem neu bwyntio ato. Os yw eich plentyn yn gwneud hyn, manteisiwch ar y cyfle hwn i fodelu'r gair eto wrth i chi ei roi iddo.
Bod yn adroddwr
Gan siarad yn uchel yn syml, siaradwch am beth rydych chi'n ei wneud a beth y mae eich plentyn yn dangos diddordeb ynddo neu'n chwarae ag ef. Rhowch sylwadau ar beth mae eich plentyn yn ei wneud e.e. 'wow, rwyt ti'n adeiladu tŵr' neu 'rwyt ti wedi dod o hyd i ddeinosor!'.
Byddem yn argymell trafod unrhyw un o'ch pryderon gydag ysgol eich plentyn neu Ymwelydd Iechyd. Os oes gennych bryderon o hyd, yna gallwch gwblhau atgyfeiriad isod: