Neidio i'r prif gynnwy

Tinitws

Beth yw Tinitws?

"Tinitws yw'r teimlad o sain heb unrhyw ffynhonnell allanol." (Aazh et al, 2016). Efallai y byddwch yn clywed synau fel mwmian, hisian, canu, sain ffrystio neu rai pobl yn profi tinitws math cerddorol - yr enw ar hyn hefyd yw tinitws cerddorol neu rithweledigaethau cerddorol.

Beth sy'n achosi Tinitws?

Mae Tinitws yn gyffredin ac yn effeithio ar tua 30% o'r boblogaeth yn y DU gyda thua 13% o oedolion yn profi "tinitws parhaus". Mae Tinitws yn aml yn cyd-fynd â cholli clyw (NICE, 2020). Fodd bynnag, weithiau gall tinitws cael ei achosi gan amlygiad i sŵn uchel, straen a gorbryder, rhai meddyginiaethau, cwyr clust neu haint clust, anafiadau pen a gwddf, neu gall hefyd ddigwydd yn ddigymell heb unrhyw achos o gwbl. (NICE, 2023)

Nid oes iachâd ar gyfer tinitws oherwydd nid yw'n salwch neu afiechyd. Er bod yr achos yn dal i fod yn aneglur, y gred yw bod tinitws yn weithgaredd ymennydd ychwanegol yn cael ei anfon i'r ymennydd sydd fel arfer yn cael ei ddileu (BTA, 2018).

Dilynwch ni: