Neidio i'r prif gynnwy

Cydbwysedd

Beth yw Fertigo?

Mae'r glust fewnol yn bwysig er mwyn cael cydbwysedd da yn ogystal â chlywed. Mae'r glust fewnol yn rhoi gwybodaeth i'ch llygaid a'ch cyhyrau, fel eich bod yn teimlo bod y byd yn aros yn llonydd pan fyddwch chi'n symud o gwmpas. Pan mae’n mynd o'i le, rydych chi'n teimlo bod pethau'n symud (yn aml yn troelli neu'n siglo lan a lawr). Yr enw ar y teimlad hwn yw fertigo. Mae nifer o wahanol gyflyrau'r glust a all achosi fertigo.

I bwy mae'r Gwasanaeth hwn?

Mae'r Gwasanaeth Cydbwysedd ar gyfer unrhyw un a allai fod â phroblem gyda’r glust fewnol (festibwlar).

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall oedolion gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, arbenigwr clust, trwyn a gwddf (ENT) neu Awdiolegydd. Gall plant gael eu gweld ar gais meddyg ymgynghorol ENT.

Beth i'w Ddisgwyl

Pan fyddwch chi’n cael eich atgyfeirio atom, bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at ein rhestr aros. Fyddwn ni ddim yn cysylltu â chi nes eich bod chi’n cyrraedd brig y rhestr. Yna byddwch chi’n derbyn holiadur i'w gwblhau cyn eich apwyntiad.

Yn eich apwyntiad cyntaf bydd eich symptomau yn cael eu trafod a bydd rhai profion yn cael eu gwneud i ddysgu mwy am atgyrchau (reflexes) eich clust fewnol. Byddwn ni’n cwblhau asesiad rhai pobl ar y diwrnod. Byddwn ni’n awgrymu bod pobl eraill yn cael profion pellach neu apwyntiad gydag arbenigwr ENT.

Os oes gennych chi symptomau sy'n effeithio arnoch chi o ddydd i ddydd, yna byddwn ni’n siarad am ymarferion adsefydlu cydbwysedd.

Mae mwy o wybodaeth am brofion a chyflyrau festibwlar ar gael yma:

Diagnosis a Thriniaeth - https://vestibular.org/article/diagnosis-treatment/

Gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer symptomau festibwlar neu glust fewnol - https://www.menieres.org.uk/information-and-support

GWELLA EICH CYDBWYSEDD GARTREF

Os byddwch chi a'ch Awdiolegydd yn cytuno y byddai ymarferion cydbwysedd yn ddefnyddiol, bydd eich Awdiolegydd yn dangos i chi beth i'w wneud. Mae rhai adnoddau da ar gael ar-lein hefyd sydd am ddim i'w defnyddio.

Rhaglen ymarfer corff ar-lein ar gyfer cydbwysedd well y glust fewnol, gan Brifysgol Southampton:
https://balance.lifeguidehealth.org/player/play/balance

Canllaw ar-lein sy'n helpu oedolion hŷn i wneud ymarfer corff yn ddiogel a lleihau eu risg o syrthio:
www.morelifehealth.com

Dau lyfryn gan Gymdeithas Meniere: Ailhyfforddiant Cydbwysedd (menieres.org.uk) - https://www.menieres.org.uk/files/pdfs/balance-retraining-2012.pdf
Rheoli Eich Symptomau (menieres.org.uk) - https://www.menieres.org.uk/files/pdfs/controlling-your-symptoms.pdf

Manylion Cyswllt

Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ynysmaerdy
Llantrisant
Rhondda Cynon Taff
CF72 8XR
Ffôn: 01443 443283
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk

Llyfryn Gwybodaeth BPPV

Gwybodaeth Ynglŷn â'ch Asesiad Cydbwysedd CTM

Cymdeithas Meniere: Yr elusen genedlaethol i bobl sy'n cael pendro

VeDA (vestibular.org)

Dilynwch ni: