Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg i Oedolion

Rydyn ni’n darparu gwasanaeth diagnostig ac adsefydlu llawn i bobl gydag anhwylderau clywed, tinitws ac anhwylderau cydbwyso.

Mynychu Apwyntiadau

Gwybodaeth bwysig am KHHP.

Byddwch yn ymwybodol, os bydd tân neu argyfwng lle na fyddai'r lifftiau'n cael eu defnyddio, fod yn rhaid i chi (ac unrhyw un sy'n dod gyda chi) allu gadael trwy'r grisiau. Bydd staff ar gael i’ch cefnogi a’ch cynorthwyo i lawr y grisiau os bydd angen. Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, mae gennym gadeiriau achub i’ch helpu i lawr y grisiau. Fodd bynnag, bydd angen i chi allu trosglwyddo i’r gadair achub (drwy lithro ar draws) gyda chymorth lleiaf posibl. Gwiriwch fod breichiau eich cadair olwyn yn gallu cael eu tynnu i ffwrdd cyn mynychu er mwyn hwyluso hyn. Mae gan ein cadeiriau achub lwyth gweithio diogel uchaf o 31 stôn. Os na allwch ddefnyddio’r grisiau, os na allwch drosglwyddo i gadair achub heb gymorth, neu os ydych yn teimlo nad yw cadair achub yn addas i chi, gofynnwn i chi beidio â mynychu'r apwyntiad yn Awdioleg Parc Iechyd Kier Hardie. Gall ein tîm gweinyddol aildrefnu apwyntiad i'w gynnal mewn lleoliad llawr gwaelod addas ar safle arall. Diolch.

Wrth ddod i mewn i'r adran, dilynwch y canllawiau hyn:

  • Os yw'r dderbynfa ar gau neu os nad oes derbynfa, cymerwch sedd wrth gyrraedd a bydd eich awdiolegydd yn eich galw.

  • Rydym yn eich annog i ddod â ffrind neu aelod o'r teulu gyda chi i'r apwyntiad.

  • Sylwch, mae ein clinigau'n brysur iawn ac weithiau mae staff yn hwyr. Bydd eich

Awdiolegydd yn rhoi gwybod i chi os yw'n rhedeg dros 20 munud yn hwyr.

Cysylltwch os oes angen cyfieithydd ar y pryd arnoch.

 

Trwsio Cymhorthion Clyw

Cleifion Pen-y-bont ar Ogwr / Maesteg

Clfieion Dwyrain Cwm Taf

O ddydd Mercher 7 Awst 2024 - mae sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw yn ôl!

Does dim angen apwyntiad a bydd yn rhedeg bob dydd Mercher rhwng 9yb - 4yp Ysbyty Tywysoges Cymru.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg

sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw / gwasanaethu ar gael bob dydd Gwener 9yb - 4yp.

Gallwch chi hefyd trefnu apwyntiadau trwsio / gwasanaethu ymlaen llaw, anfonwch e-bost neu ffoniwch eich gwasanaeth lleol i drefnu.

 

Ysbyty Cwm Rhondda

Sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw / gwasanaethu ar gael bob dydd Llun 9yb - 4yp.

 

Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie

Sesiynau galw heibio i drwsio cymhorthion clyw / gwasanaethu ar gael bob dydd Iau 9yb - 4yp.

Gallwch chi hefyd bostio eich cymhorthion clyw atom ni i’w trwsio, ond dilynwch y cyngor isod:

  • Sicrhewch fod y pecyn wedi ei selio'n dynn er mwyn atal unrhyw beth rhag mynd ar goll neu rhag cael ei ddifrodi.
  • Dylech chi allu postio eitem o’r maint a’r pwysau hynny yn iawn. Os oes unrhyw bryderon gyda chi, pwyswch y pecyn neu defnyddiwch dosbarthiad cofnodedig.
  • Cofiwch nodi eich enw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn, yn ogystal â chrynodeb o unrhyw ddiffygion gyda'r cymorth clyw.

Sylwch nad ydyn ni’n gyfrifol am unrhyw ddyfeisiau sy’n mynd ar goll trwy'r post.

RHYBUDD DIOGELWCH
Mae batris yn beryglus os ydynt yn cael eu llyncu. Efallai na fydd y difrod yn amlwg tan oriau'n ddiweddarach.
Dylech chi ofyn am sylw meddygol ar unwaith os ydych chi'n amau bod rhywun wedi llyncu batri, hyd yn oed os bydd yr unigolyn hwnnw i’w weld yn iach.
Sicrhewch fod eich batris a'ch cymorth clyw allan o gyrraedd plant ac oedolion sy’n agored i niwed.
Peidiwch byth â storio batris gyda moddion.
Gofynnwch am gymorth clyw y mae modd ei gloi os ydych chi'n gofalu am rywun sy'n agored i niwed.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae ein gwasanaeth awdioleg yn cynnig:

  • Asesiadau cynhwysfawr o’r clyw a ffitio cymhorthion clyw i oedolion (18 oed neu hŷn)
  • Archwiliadau diagnostig cynhwysfawr ac asesiadau o gydbwysedd
  • Therapi’r clyw a thinitws i oedolion
  • Adsefydlu cydbwysedd (festibwlar) i oedolion
  • Cynnal a chadw a thrwsio cymhorthion clyw

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall, ond bydd angen i feddyg atgyfeirio oedolion.

Nid oes angen ailgyfeiriad ar gleifion Awdioleg presennol ac fe allant gysylltu â ni'n uniongyrchol i drefnu apwyntiad.

Beth i'w ddisgwyl

Pan fydd eich meddyg teulu neu arbenigwr ar y glust, y trwyn a’r gwddf yn eich atgyfeirio chi, byddwn ni’n ychwanegu eich enw at ein rhestr aros. Fyddwn ni ddim yn cysylltu â chi nes ein bod ni wedi trefnu apwyntiad ar eich cyfer chi. Bydd yr amseroedd aros ar gyfer mathau eraill o apwyntiadau yn amrywio. Mae’r GIG yn darparu cymhorthion clyw y tu ôl i’r glust.

Manylion cyswllt

Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Ynysmaerdy
Llantrisant
Rhondda Cynon Taf
CF72 8XR
Rhif ffôn: 01443 443283
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk

Awdioleg (Parth Q)
Ysbyty Tywysoges Cymru
Heol Coety
Pen-y-bont ar Ogwr CF31 1RQ
Llinell uniongyrchol 01656 752195
Ffôn symudol / Neges destun: 07814458614
e-bost Audiology.POWH@wales.nhs.uk

Ysbyty Cwm Cynon
Heol Newydd
Aberpennar
Rhondda Cynon Taf
CF45 4BZ
Rhif ffôn: 01685 728130
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk
Ysbyty Cwm Rhondda
Partridge Road
Llwynypia
CF40 2LU
Rhif ffôn: 01443 443283
E-bost: CTT_Audiology@wales.nhs.uk

Dolenni defnyddiol

Rydym yn annog cleifion a'u hanwyliaid i ymgysylltu a chyfathrebu â ni i helpu i hwyluso cynllunio, archwilio boddhad a datblygu gwybodaeth am ein gwasanaethau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw sylwadau a allai wella ein gwasanaethau.

Awdioleg, rhannwch eich barn. Gall eich syniadau, profiadau a chynghorion ein helpu i wella'r gofal a'r gwasanaethau a gewch. Croesewir hefyd canmoliaeth a fydd yn cael ei rhannu â'r staff.

Dilynwch ni: