Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n defnyddio'r gwasanaeth Tinitws?

Os yw eich tinitws yn peri pryder i chi, siaradwch â'ch meddyg teulu a fydd, yn seiliedig ar eich symptomau, yn eich atgyfeirio at y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol perthnasol, a all fod yn Glust, Trwyn a Gwddf (ENT) neu'r Gwasanaeth Tinitws Awdioleg.

Beth i'w ddisgwyl o fy apwyntiad tinitws i:

Cyn eich apwyntiad cychwynnol, bydd set o holiaduron yn cael ei anfon atoch. Cymerwch yr amser i lenwi'r holiaduron hyn a dewch â nhw i'ch apwyntiad ynghyd ag unrhyw gymhorthion clyw a roddwyd i chi. Bydd eich atebion yn helpu eich awdiolegydd i deilwra'r apwyntiad i'ch anghenion.

Yn ystod yr apwyntiad, bydd yr awdiolegydd yn:

  • Adolygu eich holiaduron gyda chi ac ymhelaethu ar eich atebion
  • Trafod eich tinitws ac unrhyw broblemau clust neu glyw eraill
  • Archwilio eich clustiau ac asesu a oes angen ailbrofi eich clyw
  • Dylunio cynllun rheoli gyda chi yn seiliedig ar eich anghenion
  • Trefnu atgyfeiriad ymlaen os oes angen

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol nad oes 'iachâd' ar gyfer tinitws, ond gall eich awdiolegydd eich helpu i ymdopi trwy gyflwyno cynllun rheoli mwy ffurfiol neu strwythuredig i chi gyda'r nod o leddfu effaith eich tinitws ar eich bywyd. 

Tinnitus Care Options - Decision Aid

Gwefannau Defnyddiol

Cyfeiriadau

 Clwb Trwm eu Clyw Aberdâr.docx (Word, 19Kb)
 Grŵp Trwm eu Clyw Pen-y-bont ar Ogwr.docx (Word, 18Kb)
 Grŵp Trwm eu Clyw Pentre.docx (Word, 18Kb)
 Grŵp Tinitws a Thrwm eu Clyw Pont-y-clun.docx (Word, 19Kb)
 Grŵp Tinitws a Thrwm eu Clyw Pontypridd.docx (Word, 19Kb)
 Grŵp Trwm eu Clyw Rhondda.docx (Word, 19Kb)
Dilynwch ni: