Neidio i'r prif gynnwy

Awdioleg Baediatrig

Rydym ni'n darparu gwasanaeth awdioleg i blant, yn cynnal profion clyw ac yn cynnig dyfeisiau clywed i blant a fyddai'n elwa o dderbyn un. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r tîm llawfeddygol Clust, Trwyn a Gwddf (ENT).

Mae plant yn cael eu hatgyfeirio at Awdioleg i gael asesiad clyw am nifer o resymau. Y rhai mwyaf cyffredin yw:

  • Maen nhw wedi cael eu hatgyfeirio gan y Rhaglen Sgrinio Clyw i Fabanod Newydd-anedig.
  • Mae gan rieni bryderon ynghylch clyw eu plentyn ac maen nhw wedi siarad â'u meddyg teulu neu ymwelydd iechyd.
  • Mae athrawon yn yr ysgol wedi codi pryderon ynghylch clyw plentyn.
  • Mae pryderon ynghylch oedi yn natblygiad iaith a lleferydd plentyn neu ynghylch ymddygiad a allai fod oherwydd anawsterau clyw.
  • Maen nhw wedi cael eu hatgyfeirio i gael profion pellach yn dilyn profion sgrinio clyw yn yr ysgol.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Unrhyw blentyn o dan 18 oed.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Dim ond os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Os oes pryderon gyda chi ynghylch clyw eich plentyn, trafodwch hyn gyda'ch meddyg teulu neu eich ymwelydd iechyd a fydd yn trefnu atgyfeiriad i Awdioleg os yw'n briodol.

Oriau Agor

Dydd Llun - Dydd Gwener, 9:00 am - 5:00 pm

Beth i'w Ddisgwyl

Yn ystod apwyntiad, byddwn yn cwblhau prawf (neu gyfuniad o brofion) sy'n briodol i oedran eich plentyn er mwyn pennu ei lefelau clyw a nodi unrhyw anawsterau clyw.

Gall hyn gynnwys mwy nag un ymweliad â'r clinig er mwyn creu set lawn o ganlyniadau, a / neu i fonitro clyw eich plentyn.

Bydd y meddyg neu'r awdiolegydd yn rhoi canlyniadau'r gwahanol brofion at ei gilydd i ddarganfod a oes gan eich plentyn unrhyw fath o anhawster clywed ac, os felly, pa rannau o'r glust a'r system glyw a allai gael eu heffeithio.

RHYBUDD DIOGELWCH

Mae batris cymorth clyw yn beryglus os cânt eu llyncu. Gofynnwch am sylw meddygol brys bob amser, hyd yn oed os yw'n ymddangos bod y person yn iawn.

Cadwch fatris allan o gyrraedd plant bob amser.

Peidiwch byth â storio batris gyda meddyginiaethau.

Mae cymhorthion clyw y gellir eu cloi yn cael eu rhoi i bob plentyn sy'n iau nag oedran ysgol ac sydd angen cymorth clyw. Gellir rhoi'r rhain i blant hŷn sy'n agored i niwed hefyd, neu'r rheini â brodyr a chwiorydd ifanc a allai gael gafael ar y cymorth clywed.

Cysylltwch â Ni

Os ydych wedi derbyn apwyntiad ar gyfer asesiad clyw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Rhondda, Ysbyty Cwm Cynon neu Barc Iechyd Keir Hardie, cysylltwch â ni ar y rhif ar y llythyr neu 01443 443443 ( Est. 75307 ).

Ar gyfer apwyntiadau cymorth clyw a archebir fel arfer yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ysbyty Cwm Rhondda, cysylltwch â ni ar 01443 443283.

Ar gyfer apwyntiadau cymorth clyw a archebir fel arfer yn Ysbyty Cwm Cynon neu Barc Iechyd Prifysgol Kier Hardie, cysylltwch â ni ar 01685 728130.

Ar gyfer apwyntiadau asesu clyw a chymorth clyw yn Ysbyty Tywysoges Cymru, cysylltwch â ni ar 01656 752195.

Dolenni Defnyddiol

www.nhs.uk/conditions/glue-ear

ndcs@ndcs.org.uk

www.newbornhearingscreening.wales.nhs.uk

Dogfennau Defnyddiol

 Apwyntiadau Awdioleg (PDF, 429Kb)
 Gwybodaeth am asesiadau clyw plant (PDF, 334Kb)
 Polisi Atgyweirio Cymhorthion Clyw yr Awdioleg Baediatrig (PDF, 208Kb)
 Safonau Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Clyw plant (Cymru) Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (PDF, 242Kb)
 Adroddiad Bodlonrwydd Paediatrig Paediatric Satisfaction Survey Report 2019 (PDF, 264Kb)
 Asesu Clyw Plant Information about children's hearing assessment (PDF, 334Kb)
Dilynwch ni: