Neidio i'r prif gynnwy

Cyflawni ar hyd camau bywyd

Beth yw camau bywyd a pham maen nhw'n bwysig?

Mae modd rhannu ein bywyd yn nifer o gamau pwysig o arwyddocâd personol i ni, ond dyma bum cam allweddol: genedigaeth | y blynyddoedd cynnar | plentyndod | bywyd fel oedolyn a marwolaeth.

Wrth i ni symud at y camau pwysig hyn yn ein bywyd, mae ein hanghenion o ran gofal iechyd yn newid, yn ogystal â'n disgwyliadau a'n gofynion.

Trwy CTM2030, rydyn ni’n deall yn well o lawer y newidiadau yng ngofynion iechyd unigolyn ar gyfer pob un o'r pum cyfnod allweddol hyn. Rydyn ni’n gofyn beth sydd ei angen ar fabanod, plant, pobl ifanc, oedolion a'r henoed yn CTM oddi wrth system gofal iechyd er mwyn cynnal iechyd a lles da hirdymor.

Dim ond trwy ddeall hyn y gallwn ni gynllunio a darparu ein gwasanaethau gofal iechyd mewn ffordd drawsnewidiol, sy’n galluogi pobl i fyw eu bywyd iachaf posib gyda chymorth system sy'n canolbwyntio ar atal salwch yn hytrach nag aros i'w iacháu.