Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:
Cyflwynir y Gofrestr Risg Gorfforaethol i'r Bwrdd ym mhob cyfarfod i alluogi'r Bwrdd i wneud y canlynol:
Mae Papurau'r Bwrdd i'w gweld yn yr adran Cyfarfodydd o'r Bwrdd ar ein gwefan.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (UHB) yn caffael ei nwyddau a'i wasanaethau gan gontractwyr a chyflenwyr yn unol â'i drefniadau caffael a nodir yn Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog y Bwrdd Iechyd.
Er mis Ebrill 2011, cyflawnir swyddogaeth gaffael y Bwrdd Iechyd trwy drefniant partneriaeth gan gangen Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn defnyddio dros 15,000 o gyflenwyr. Felly os oes angen rhestr o'n 20 prif gyflenwyr arnoch, neu os hoffech gyflwyno cais penodol, cyflwynwch gais trwy shared.services@wales.nhs.uk.
Dyma enghraifft o gyflenwyr cyfredol Cwm Taf Morgannwg, oedd yn gywir ar 28 Hydref 2019.
Mae cofrestrau asedau cyfalaf a gwybodaeth wedi'u bwriadu i'w cyhoeddi yn y dyfodol. Os bydd angen gwybodaeth arnoch yn y cyfamser, cysylltwch â Chydlynydd y Cynllun Cyhoeddi.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am 255 o gamerâu cylch cyfyng ar draws ei safleoedd. Ni fydd manylion pellach yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn oherwydd risgiau diogelwch wrth sicrhau bod y math hwn o wybodaeth ar gael i'r cyhoedd.
Mae'r gofrestr buddiannau i'w gweld yn yr Adroddiadau Atebolrwydd o dan Adroddiad y Cyfarwyddwyr.
Gellir dod o hyd i'r Gofrestr Anrhegion a Lletygarwch yn adroddiadau'r Pwyllgor Archwilio a Risg.
Mae manylion y Log Datgeliadau Rhyddid Gwybodaeth.