Nod Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar mewn Seicosis yw rhoi cymorth dwys i bobl ifanc rhwng 14-35 sy’n profi eu cyfnod cyntaf o seicosis.
Gall arwyddion cynnar o Seicosis fod yn aneglur, a byddan nhw’n amrywio o’r naill berson i’r llall. Dyma rai o’r arwyddion y bydd yr unigolyn, neu’r bobl o’i gwmpas, yn sylwi arnyn nhw:
Gall rhai o’r newidiadau hyn fod yn ymateb i ddigwyddiadau llawn straen fel anawsterau yn yr ysgol/coleg/gwaith, perthnasau’n dod i ben neu’r broses o newid rolau. I rai pobl, gall defnyddio cyffuriau a/neu alcohol at ddibenion adloniant achosi’r anawsterau hyn.
Fodd bynnag, mae’n syniad da cael cymorth cyn i’r anawsterau hyn achosi gofid. Os yw cyfnod seicotig yn datblygu, gorau po gyntaf y caiff y person driniaeth.
Mae arwyddion hwyrach yn debygol o fod yn fwy amlwg, a gallan nhw fod yn ofidus iawn. Er enghraifft:
Mae’r tîm yn cynnwys gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion a’u teuluoedd i ddeall eu profiadau personol, gwella symptomau, hybu lles emosiynol, lleddfu ar straen, gwella hyder a gwella hyder a sgiliau cymdeithasol yr unigolyn a’i allu i ymdopi.
Mae’r broses o adfer yn wahanol i bawb. Ein nod yw gweithio ochr yn ochr â phobl i wella eu hiechyd meddwl ac ansawdd eu bywyd, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu bwrw ymlaen â’u bywydau.
Rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau gan wasanaethau iechyd fel P-CAMHS, S-CAMHS, CMHT, CRHT, PCMHS, lleoliadau cleifion mewnol ac asiantaethau allanol fel meddygon teulu ac Awdurdodau Lleol.
Mae modd cysylltu â’r tîm hwn ar hyn o bryd trwy’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol i Wasanaethau Oedolion, neu drwy’r Tîm Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc yn Nhon-teg.
Mae'r Tîm ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
*Gall unigolion sy'n byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr gael cymorth drwy Wasanaeth Ymyrryd yn gynnar mewn Seicosis BIP Bae Abertawe. Ffoniwch nhw ar (01639) 862957.
Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Ymyrraeth Gynnar yng Nghymru ar gael yn: http://www.psychosis.wales/.