Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.
Gwasanaeth amlbroffesiynol sy’n arbenigo mewn awtistiaeth yw’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig. Mae’n cynnal asesiadau i oedolion sy’n credu y gallai fod awtistiaeth gyda nhw ac yn rhoi cymorth i oedolion awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl awtistig. Ymhlith staff y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig mae:
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn darparu’r gwasanaethau canlynol:
Oedolion sy’n credu eu bod nhw’n awtistig:
Gall oedolion awtistig fyddai’n hoffi cymorth gyda’u cyflwr fanteisio ar y canlynol:
Gall rhieni/gofalwyr oedolion awtistig fanteisio ar y canlynol:
Gall rhieni/gofalwyr plant fanteisio ar y canlynol:
Gall gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau eraill gysylltu â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar gyfer y canlynol:
Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cynnig cymorth unigol a chymorth trwy gyrsiau i oedolion awtistig a’u teuluoedd ynghylch amrywiaeth o bethau. Dyma rai enghreifftiau:
Oedolion sydd angen asesiad ar gyfer awtistiaeth, oedolion awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl awtistig.
Mae system atgyfeirio agored gyda’r Gwasanaeth sy’n golygu bod unrhyw un sydd wedi ei rhestru uchod yn gallu atgyfeirio at y gwasanaeth drwy gwblhau’r dogfennau atgyfeirio perthnasol sydd ar waelod y dudalen hon. Bydd angen dychwelyd pob ffurflen atgyfeirio drwy’r post neu drwy e-bost at y cyfeiriad sydd i’w weld yn y manylion cyswllt.
Sylwch: Ar hyn o bryd, mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gallu cynnig gwasanaeth i unigolion sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn unig. Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae’r Gorllewin yn rhoi cymorth i unigolion sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae manylion y gwasanaeth hwn i’w gweld yma:
https://autismwales.org/cy/gwasanaeth-awtistiaeth-integredig/baer-gorllewin/
Dydy’r gwasanaeth hwn ddim yn cynnig y canlynol:
(Mae gwasanaethau eraill ar gael sy’n gallu helpu gyda’r materion hyn).
Amseroedd agor
9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener
Ar gyfer asesiadau am atgyfeiriadau awtistiaeth: Pan fydd eich atgyfeiriad wedi dod i law ac ar ôl i ni ei frysbennu a’i dderbyn, byddwch chi’n cael gwybod eich bod chi ar ein rhestr aros.
Cyn eich asesiad, byddwch chi’n cael dau holiadur i’w cwblhau a gwahoddiad i ddau apwyntiad am asesiad. Bydd yr apwyntiad cyntaf dros y ffôn neu dros fideo a bydd yr ail apwyntiad wyneb yn wyneb. Ar ôl eich asesiad, byddwch chi’n cael cyngor ynghylch y camau nesaf yn ogystal ag adroddiad o ganlyniad eich asesiad ac argymhellion.
Ar gyfer atgyfeiriad am gymorth: Os bydd yn briodol, byddwch chi’n cael cynnig ymgynghoriad cychwynnol ag aelod o’n tîm fydd yn asesu eich anghenion ac yn creu cynllun gyda chi. O ganlyniad i’r ymgynghoriad hwnnw, mae’n bosib y byddwn ni’n cynnig cymorth i chi drwy un o’n cyrsiau, yn eich atgyfeirio chi at wasanaethau eraill neu’n cynnig cymorth unigol i chi.
Manylion cyswllt
Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
Llawr Gweinyddol 2
Parc Iechyd Prifysgol Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ
Ffôn:01443 715044
E-bost: CTT_IAS@wales.nhs.uk