Neidio i'r prif gynnwy

Fepio

Ddim yn ysmygu? Peidiwch â dechrau fepio!

Ysmygu yw prif achos salwch y gellir ei atal a marwolaeth gynamserol yng Nghymru. Mae'n achosi chwarter yr holl farwolaethau canser yn y DU ac mae'n gyfrifol am 80,000 o farwolaethau y gellir eu hatal yn y DU a mae tua 5,600 ohonyn nhw yng Nghymru, bob blwyddyn.

Er y gall fêps fod yn ddefnyddiol i rai ysmygwyr wrth gefnogi rhoi'r gorau i ysmygu, mae data'n dangos bod nifer y plant sy'n defnyddio fêps wedi treblu yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Oherwydd eu cynnwys nicotin a'r niwed hirdymor anhysbys, mae fepio yn cario risg o niwed a dibyniaeth i blant.


Mae defnyddio fêps untro tafladwy hefyd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf i'r pwynt bod bron i 5 miliwn naill ai'n cael eu taflu'n fler neu eu taflu mewn sbwriel bob wythnos.  Nid yn unig y mae hyn yn hynod wastraffus oherwydd eu cydrannau anodd eu hailgylchu, ond mae'n hysbys fêps tafladwy yn cael eu defnyddio gan blant a phan fyddan nhw'n taflu sbwriel, gallan nhw ryddhau cemegau gwenwynig i'r amgylchedd.

Dilynwch ni: