Mae clefyd cardiofasgwlaidd (CVD) yn derm cyffredinol am gyflyrau sy'n effeithio ar y galon neu'r pibellau gwaed. Mae hyn yn cynnwys clefyd rhydwelïau coronaidd, strôc ac arthrosclerosis.
CVD yw un o brif achosion marwolaeth ac anabledd yn y DU, ond gall unigolion helpu i leihau eu risg trwy gynnal ffordd iach o fyw. Bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu fel rhoi’r gorau i ysmygu, cynnal pwysau iach, lleihau faint o alcohol y maen nhw’n ei yfed a chynyddu lefelau gweithgarwch. Gall cyflyrau fel diabetes, pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel hefyd gynyddu'r risg o CVD. Mae diagnosis cynnar a thrin y cyflyrau hyn yn y modd gorau posibl yn hanfodol bwysig.
Mae diabetes yn gyflwr sy'n achosi i lefelau glwcos gwaed person (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel lefelau siwgr) fynd yn rhy uchel. Mae dau brif fath o ddiabetes:
Mae gan lawer o bobl lefelau o siwgr yn eu gwaed sy’n uwch na'r ystod arferol, ond nid ydynt yn ddigon uchel i gael diagnosis o ddiabetes. Yr enw ar hyn yw cyn-diabetes ac mae’n rhoi’r unigolyn mewn perygl o ddatblygu diabetes Math 2. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod 5-10% o bobl â chyn-diabetes yn datblygu diabetes Math 2 bob blwyddyn. Mae gwelliannau mewn diet a lefelau gweithgarwch corfforol yn lleihau'r risg hon yn sylweddol.
Mae nifer o raglenni gofal wedi/yn cael eu rhoi ar waith yn lleol i helpu meddygon teulu i gefnogi eu cleifion i ddeall eu ffactorau risg am CVD a diabetes a gwneud newidiadau i’w ffordd o fyw i helpu i leihau’r risg honno.
I gael gwybodaeth gyffredinol am glefyd cardiofasgwlaidd a lleihau’r risg o’i ddatblygiad, ewch i:-
I gael rhagor o wybodaeth am rai o’r rhaglenni lleol sydd wedi’u targedu at gleifion sydd â risg uwch o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd neu ddiabetes, ewch i:-
Os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor, nod y cynllun hwn yw eich helpu chi a'ch gofalwr i ddarparu gwybodaeth glir i staff iechyd a gofal a allai fod angen ymweld â'ch cartref mewn argyfwng. Mae rhagor o wybodaeth yma.
.