Neidio i'r prif gynnwy

"Dydw i ddim bellach yn dibynnu ar fy Sgwter Symudedd!" - Stori Claf Berni

Roedd un o'n cleifion Gofal y Cymalau, Berni, eisiau rhannu ei phrofiad o'r rhaglen 12 wythnos o hyd a arweiniodd at y ffaith nad oedd hi’n dibynnu ar ei sgwter symudedd mwyach.

Gyda chymorth gan Luke ac Ellis, tiwtoriaid Rhaglen Gofal y Cymalau, mae Berni wedi gallu

gwneud newidiadau i'w ffordd o fyw ac mae'n teimlo'n fwy hyderus.

 

Ymunodd Berni â'r Rhaglen Gofal y Cymalau ym mis Mawrth 2022 ac nid oedd yn siŵr beth i'w ddisgwyl, ond cafodd ei synnu ar yr ochr orau. 

Dywedodd Berni fod y tiwtoriaid yn gefnogol a'i bod hi wedi mwynhau'r rhaglen yn fawr. Roedd Berni yn defnyddio sgwter symudedd i deithio'n ôl ac ymlaen i sesiynau. Ers gorffen y rhaglen nid oes angen ei sgwter ar Berni bob dydd bellach ac erbyn hyn mae hi’n defnyddio ei chymorth cerdded. Mae Berni hefyd yn gallu cerdded yn annibynnol yn ei chartref, rhywbeth nad oedd hi'n gallu ei wneud cyn mynychu Rhaglen Gofal y Cymalu. Mae Berni yn nodi iddi ddod o hyd i'r sesiynau Bwyd Doeth am Byth yn ddefnyddiol iawn ac yn ysgogiad iddi wella ei maeth.

Mae'r Rhaglen Gofal y Cymalau wedi gwella hyder symudedd, cyd-swyddogaeth, llesiant a gwybodaeth maeth  Berni, sydd wedi’i harwain i wella ei hiechyd cyffredinol.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, mae Berni bellach yn defnyddio'r gampfa yn wythnosol ac yn mynychu sesiynau Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) am gefnogaeth barhaus ac mae'n edrych ymlaen at y gweithdy drymio. 

Dywedodd Luke, Tiwtor Rhaglen Gofal y Cymalau, 'Roedd yn bleser cefnogi Berni a gallu gwneud gwahaniaeth i'w symudedd. Mae’r ffaith nad oes angen ei sgwter arni mwyach yn gymaint o gamp ac mae’n hyfryd gweld Berni yn y gampfa.’

 

Canlyniadau Iechyd 12 wythnos Rhaglen Gofal y Cymalau:

Pwysau:

-1.2kg

Gwasg:

-4cm

EQ5D:

+3.6 (Llesiant)

Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin:

+6 (Llesiant)

Clun Rhydychen:

+5 (Gweithrediad)

Pen-glin Rhydychen:

+11(Gweithrediad)

Codi o Eistedd i Sefyll:

+4 (Symudedd)

Prawf cerdded chwe munud (6MWT):

+60M (Symudedd)

 

Dywedodd y tîm Iechyd Cyhoeddus Cymru Lleol sy'n cefnogi cynnal y rhaglen, 'Mae'r Rhaglen Gofal y Cymalau yn wasanaeth gwych sydd ar gael ar draws Cwm Taf Morgannwg. Mae'n rhad ac am ddim a gall wir helpu pobl i fyw bywyd mwy actif a hapus, fel y dangosir gan Berni sydd wedi cymryd camau mawr ymlaen. Mae ein timau Rhaglen Gofal y Cymalau yn gyfeillgar a phrofiadol ac yn gallu eich helpu chi i lwyddo. Hoffem ddweud da iawn i Berni a dymunwn bob llwyddiant i chi ar gyfer y dyfodol.'

Nid yw Berni, claf Rhaglen Gofal y Cymalau, bellach yn dibynnu ar ei sgwter symudedd ac mae’n gwneud ymarfer corff yn wythnosol yn ei chanolfan chwaraeon lleol.

Dilynwch ni: