Mae'n arferol i'ch babi fod eisiau bwydo'n aml iawn. Mae angen i fabanod newydd-anedig fwydo o leiaf wyth i ddeg gwaith y dydd ac yn aml byddan nhw’n bwydo'n amlach na hyn. Bwyd cyntaf eich babi yw colostrwm, y mae eich corff wedi bod yn ei gynhyrchu yn ystod beichiogrwydd. Symiau bach iawn sy’n cael eu cynhyrchu ond mae’n cynnwys y cyfan sydd ei angen ar eich babi am yr ychydig ddyddiau cyntaf nes bydd eich bronnau'n dechrau cynhyrchu llaeth aeddfed. Po fwyaf y bydd eich babi yn bwydo ar y fron, y mwyaf o laeth y bydd eich corff yn gwybod y mae angen ei gynhyrchu.
Mae bwydo ymatebol yn golygu cynnig y fron mewn ymateb i giwiau bwydo ond hefyd am resymau eraill, er enghraifft er mwyn cysuro neu oherwydd bod eich bronnau’n teimlo’n llawn, neu eich bod am ymlacio a chwtshio’ch babi. Gallwch chi ddim gorfwydo babi sy'n bwydo ar y fron a gallwch chi ddim rhoi gormod o faldod i fabi.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod pob babi yn bwydo ar y fron yn unig am chwe mis, ac yna am ddwy flynedd neu cyhyd â bod y fam a'r babi am wneud hynny, yn ogystal â bwyd solet.
Po hiraf y byddwch chi'n bwydo ar y fron, yr hiraf y bydd y babi’n cael ei ddiogelu a'r gorau fydd y manteision.
Peidiwch â phoeni am ba mor hir y byddwch chi'n gallu bwydo ar y fron. Mae unrhyw faint o laeth o’r fron yn cael effaith gadarnhaol.
Chi a'ch babi biau’r dewis o ran pryd y byddwch chi'n penderfynu rhoi'r gorau i fwydo ar y fron.
Dolenni Defynddiol