Pryd dylwn i ofyn am gymorth?
- Mae cyfnodau o deimlo'n bryderus neu'n isel, pan fyddwch chi’n feichiog neu ar ôl rhoi genedigaeth, yn hollol naturiol. Fodd bynnag, mae'n bwysig gofyn am gymorth os ydych chi'n teimlo’n wael drwy'r amser neu os ydych chi'n teimlo eich bod chi’n methu ymdopi.
- Gall beichiogrwydd fod yn brofiad emosiynol iawn, ac weithiau mae’n gallu bod yn anodd gwybod a oes modd trin eich teimladau neu a ydyn nhw’n arwydd o rywbeth mwy difrifol. Magwch hyder ynoch chi eich hun. Chi sy’n gwybod orau p'un a ydy eich teimladau’n arferol i chi ai peidio.
- Mae problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd, fel hwyliau isel, gorbryder ac iselder, yn gyffredin. Mae hyd at un o bob pump o fenywod yn datblygu’r problemau hyn yn ystod beichiogrwydd neu yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl rhoi genedigaeth.
- Fyddwch chi ddim yn cael eich beirniadu am y ffordd rydych chi’n teimlo. Mae eich tîm gofal beichiogrwydd yn deall bod cyflyrau iechyd meddwl yn gallu effeithio ar unrhyw un, unrhyw bryd. Byddan nhw’n eich helpu i gadw’n iach fel bod modd i chi ofalu amdanoch chi eich hun ac am eich babi.