Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd rhoi'r gorau i ysmygu, ac rydyn ni’n cydnabod pa mor heriol mae hyn yn gallu bod, ond dyma un o'r pethau pwysicaf gallwch chi ei wneud i wella iechyd, twf a datblygiad eich babi. Yn ogystal â hynny, dyma’r peth pwysicaf gallwch chi ei wneud i wella eich iechyd hirdymor chi.
Yma ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, rydyn ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’ch iechyd a’ch lles chi, ac iechyd a lles eich babi a'ch teulu, drwy Wasanaeth MAMSS.
Mae cymorth a thriniaeth AM DDIM gan y GIG yn cael eu darparu gan un o'n gweithwyr cymorth mamolaeth sydd wedi cael ei hyfforddi'n llawn, a hynny yn eich cartref eich hun neu mewn clinig yn eich ardal chi!
Gofynnwch i'ch bydwraig am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaeth MAMSS, neu ffoniwch eich gweithiwr cymorth mamolaeth:
Yn union fel y mae ysmygu'n wael i chi, mae mwg tybaco’n gallu niweidio babanod yn y groth gan ei fod yn lleihau faint o ocsigen a maetholion sy'n mynd drwy'r brych oddi wrthych chi i'ch babi.
Pam rhoi'r gorau i ysmygu?
Mae dros 4,000 o gemegau mewn sigaréts. Mae llawer o'r rhain yn wenwynig ac yn eich niweidio chi a'ch babi heb ei eni. Y newyddion da yw os byddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu:
Pryd ddylwn i roi'r gorau iddi?
Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn gynnar yn eich beichiogrwydd yn rhoi'r dechrau gorau i'ch babi. Ond, dydy hi byth yn rhy hwyr i roi'r gorau iddi. Gall Helpa Fi i Stopio i fy Mabi eich cefnogi yn ystod pob cam o'ch beichiogrwydd ac ar ôl i chi roi genedigaeth.
Beth yw monitro Carbon Monocsid?
Mae Carbon Monocsid yn nwy gwenwynig, di-arogl sy'n cael ei anadlu i mewn trwy fwg tybaco. Mae'n cymryd lle ocsigen y mae’r babi ei angen er mwyn datblygu. Mae lefelau Carbon Monocsid yn cael eu mesur fel rhan o ofal mamolaeth arferol. Bydd gofyn i chi anadlu i mewn i diwb cardbord sydd yn sownd wrth fonitor llaw.
A all fy nheulu a’m ffrindiau ymuno?
Mae gan y bobl sy'n byw gyda chi gartref ac rydych chi'n eu gweld yn rheolaidd rôl bwysig o ran cefnogi eich taith ddi-fwg. Bydd yn haws i chi roi'r gorau i ysmygu ac aros yn ddi-fwg gyda'u cymorth nhw. Dyma rai pethau y gallan nhw eu gwneud i'ch cefnogi:
Mae cymorth rhoi’r gorau i ysmygu rhad ac am ddim y GIG ar gael gan Helpa Fi i Stopio ar gyfer eich teulu a’ch ffrindiau. Ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i www.helpafiistopio.cymru/ i gael cymorth i roi'r gorau iddi.
Beth am e-sigaréts?
Gall gwasanaeth Helpa Fi i Stopio i fy Mabi gefnogi pobl sydd am roi’r gorau i ddefnyddio e-sigaréts
Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn lleihau'r holl risgiau uchod.
Mae Helpa Fi i Stopio yn wasanaeth arbenigol am ddim gan y GIG sy'n darparu cymorth i ysmygwyr sydd eisiau help i roi'r gorau i ysmygu. Gall rhoi'r gorau i ysmygu fod yn anodd iawn, ond gyda chymorth Helpa Fi i Stopio mae pobl yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi yn llwyddiannus. Mae ymchwil wedi dangos bod pobl bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu gyda chymorth Helpa Fi i Stopio na mynd ati ar eu pennau eu hunain.
Mae Helpa Fi i Stopio yn rhoi cymorth i bobl sydd eisiau rhoi'r gorau i ysmygu drwy gynnig cymorth un i un am ddim gan gynghorydd personol a defnyddio meddyginiaethau rhoi'r gorau i ysmygu gwerth hyd at £250.