Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cleifion mewnol, gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol i oedolion bobl hŷn ar draws ardaloedd awdurdodau lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
I bwy mae’r gwasanaeth?
Mae cymorth Iechyd Meddwl Oedolion ar gael i'r rhai dros 18 oed yn yr arbenigeddau canlynol. Mae gwybodaeth i bobl dan 18 oed ar dudalennau’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.
Cyngor a Gwasanaethau
Cael help heb orfod siarad â'ch meddyg teulu
Cysylltwch â GIG 111 (pwyswch 2)
Gallwch ffonio GIG 111 a dewis opsiwn 2 os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth a chyngor iechyd meddwl a lles brys, sydd ddim yn bygwth bywyd. Mae modd ffonio Iechyd Meddwl 111 (pwyswch 2) am ddim, o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes credyd ar ôl gan y galwr) neu o linell dir. Byddwch chi’n cael eich cefnogi gan dîm o Glinigwyr Iechyd Meddwl ac Ymarferwyr Lles sydd wedi’u hyfforddi’n llawn. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth ar gael saith diwrnod yr wythnos rhwng 8:30am a hanner nos.
Mewn sefyllfaoedd sy’n bygwth bywyd, y cyngor bob amser yw ffonio 999 neu fynd i'r Adran Argyfwng agosaf.
Cefnogaeth Arall
Mae yna hefyd wasanaethau iechyd meddwl eraill y gallwch chi eu defnyddio heb gysylltu â'ch meddygfa yn gyntaf. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu cael mynediad at SilverCloud, gwasanaeth hunangymorth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar-lein am ddim sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles.
Defnyddiwch y ddolen Adnoddau Hunangymorth isod i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau i helpu gyda'ch lles meddyliol.
Siaradwch â'ch meddyg teulu
Bydd angen i chi gysylltu â'ch meddygfa i gael mynediad at rai gwasanaethau iechyd meddwl. Byddwch chi’n cael eich cyfeirio at aelod o dîm y feddygfa a fydd yn gallu siarad â chi am eich iechyd meddwl a helpu i'ch cyflwyno i'r gwasanaeth iechyd meddwl cywir ar gyfer eich anghenion.
Gall hwn fod yn Ymarferydd Iechyd Meddwl neu’n Feddyg Teulu a fydd yn darparu cyngor a hunangymorth, presgripsiynu cymdeithasol, neu atgyfeiriadau at gymorth mwy arbenigol gan wasanaethau iechyd meddwl (trydydd sector, gwasanaethau cymunedol neu gleifion mewnol).