Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Rhagsefydlu

Efallai eich bod yn cael archwiliadau ar gyfer amheuaeth o ganser, yn aros am driniaeth neu wedi cwblhau triniaeth. Beth bynnag yw eich sefyllfa, mae nawr yn amser da i ofalu am eich iechyd.

Beth yw Rhagsefydlu ac Adsefydlu?

Rydym yn gwybod y bydd gwneud y gorau o'ch iechyd a'ch lles yn eich helpu i wella gallu eich corff i ymdopi cyn unrhyw driniaeth canser, sef rhagsefydlu, ac ar ôl triniaeth, sef adsefydlu.

Ar gyfer pwy mae Rhagsefydlu ac Adsefydlu yn addas ar gyfer?

Mae'r cyngor hwn yn addas ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, fodd bynnag os oes gennych unrhyw anghenion penodol yn y meysydd hyn o ganlyniad i'r amheuaeth o ganser neu ganser wedi'i gadarnhau, trafodwch hyn gyda'ch gweithiwr allweddol neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Gwybodaeth i gefnogi eich anghenion

Mae'r wybodaeth ganlynol yn rhoi'r wybodaeth i chi allu cynnal neu wella eich iechyd cyffredinol:

Gall y sefydliadau isod roi gwybodaeth i chi am wasanaethau lleol i gefnogi eich anghenion rhagsefydlu, drwy gefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein:

Beth yw Gwasanaeth Rhagsefydlu Cwm Taf Morgannwg?

Mae'r Gwasanaeth Rhagsefydlu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei arwain gan Dietegydd, Therapydd Galwedigaethol a Ffisiotherapydd a'i gefnogi gan Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi. Mae'n agored i bobl sydd angen cymorth ychwanegol mewn ymarfer corff, deiet a lles.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i helpu i wella iechyd a lles cyffredinol.

Mae’r gwasanaethau canlynol yn cael eu cynnig yn dibynnu ar ganlyniad yr apwyntiad cychwynnol.

  • Gwybodaeth am gymorth lleol ar gyfer ymarfer corff, maeth a lles
  • Dosbarthiadau ymarfer corff
  • Sesiynau addysg
  • Asesiad un i un gydag arbenigwyr

Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig ar draws y bwrdd iechyd — bydd dewis o leoliadau yn cael eu cynnig i weddu i'ch sefyllfa.

Dolenni defnyddiol

Cysylltwch â ni

Mae croeso i chi gysylltu â'r tîm gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost canlynol i gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Rhagsefydlu: CTM.Prehab@wales.nhs.uk

Dilynwch ni: