Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol wedi ymrwymo i ddarparu gofal deintyddol i’r rheiny mewn cymdeithas sy’n agored i niwed ac a allai ei chael hi’n anodd neu’n amhosib cael triniaeth ddeintyddol fel arall.
Mae’r gwasanaeth yn gweithredu ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar ffurf clinigau sefydlog a chlinigau symudol.
Mae ein clinigau’n wahanol i ddeintyddfeydd ar y stryd fawr, gan ein bod ni’n gweld cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio atom. Mae hyn yn sicrhau eu bod nhw’n cael eu triniaeth gan yr aelodau staff mwyaf cymwys ac yn y lle gorau i ddiwallu eu hanghenion.
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn darparu gofal ataliol yn y gymuned:-
Mae’r Cynllun Gwên yn targedu plant sy’n byw mewn ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o afiechydon deintyddol. Mae’r rhaglen yn cynnwys triniaeth farnais fflworid a chymorth i frwsio dannedd mewn ysgolion i blant hyd at 5 oed.
Mae Gwên am Byth, sef rhaglen cartrefi gofal Cymru gyfan, yn darparu hyfforddiant gofal iechyd y geg i staff gofal a staff nyrsio sy’n gweithio gyda phobl hŷn. Ei nod yw gwella gwybodaeth a sgiliau preswylwyr, a thrwy hynny, gwella iechyd eu ceg. Mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal yn fewnol ac yn ymwneud â hyfforddiant ‘craidd’ iechyd y geg a hyfforddiant ‘hybu’ iechyd y geg.
Mae rôl bwysig gyda’r Gwasanaeth o ran hyfforddi israddedigion deintyddol yn rhan o’u lleoliad cymunedol. Weithiau, felly, bydd myfyrwyr deintyddol sydd yn eu blwyddyn olaf yn darparu triniaeth o dan oruchwyliaeth agos gan aelod cymwys o’r staff.
Mae’r Gwasanaeth hefyd yn cynnal arolygon epidemiolegol deintyddol sy’n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cyfrannu at arolygon cenedlaethol a lleol o asesiadau o anghenion plant ac oedolion o ran iechyd y geg. Bydd y rhain yn cyfrannu at y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol. Yn rhan o’i swyddogaeth iechyd y cyhoedd, mae’r Gwasanaeth wedi magu arbenigedd yn y maes hwn.
Mae’r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Mae ein holl glinigau’n hollol hygyrch, gyda dolenni clywed ar gael ym mhob clinig a theclynnau codi mewn rhai clinigau. Mae cyfleuster bariatrig gyda ni yn Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd. Mae gwasanaethau cyfieithu ar gael.
Cliciwch i weld manylion clinig – Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol – Clinigau
Gallwn ni ddarparu triniaeth i amrywiaeth eang o bobl.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Mae pob atgyfeiriad yn cael ei frysbennu’n ganolog er mwyn penderfynu a ydy’r claf yn ateb meini prawf y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol.
Mae ymarferwyr deintyddol cyffredinol yn atgyfeirio gan ddefnyddio system atgyfeirio electronig FDS Cymru gyfan.
Gallwn ni dderbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol dros y ffôn gan gleifion a gan weithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal iechyd, cyhyd â’u bod nhw’n ateb y meini prawf i gael gofal deintyddol gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol.
Rhifau ffôn atgyfeiriad a chyfeiriadau e-bost:
Os oes problemau gyda chi gyda’ch dannedd neu ddeintgig, cysylltwch â'ch deintydd rheolaidd yn ystod oriau agor arferol.
Os nad oes gennych ddeintydd rheolaidd a bod angen triniaeth frys arnoch, ffoniwch y tîm deintyddol brys ar y rhifau isod:
Manylion Cyswllt Deintydd Brys
Yn ystod yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener 9:00am i 4:30pm) - 0300 1235060
Gwasanaeth Tu Allan i Oriau (Dydd Llun i Ddydd Gwener 6:30pm i 8:00am - 24 awr ar benwythnosau a gwyliau banc) - 0300 1235060
Ein nod yw darparu’r gofal gorau posib i’n holl gleifion. Fodd bynnag, os ydych chi am godi pryder ynglŷn â’r gofal rydych chi wedi ei gael gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol, dylech chi siarad ag aelod o’n staff cyn gynted â phosib, a byddwn ni’n gwneud ein gorau i ddatrys y broblem i chi.
Yn yr un modd, rydyn ni am wybod pan fydd pethau’n mynd yn dda. Os ydych chi’n hapus iawn gyda’r gofal rydych chi wedi ei gael gan dîm deintyddol, rhowch wybod i ni.
Gweithio i Wella – dyma broses ar gyfer delio â chwynion, hawliadau a digwyddiadau. Enw’r rhain yw “pryderon”. Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan yma: Pryderon a Chwynion.