Neidio i'r prif gynnwy

Cadwch Stoc o Feddyginiaeth yn eich Cwpwrdd

Gall cwpwrdd meddyginiaeth llawn eich gweld drwy bob math o afiechydon ac anhwylderau ysgafn yn y gaeaf. Dylech osgoi anghysur neu deithiau diangen i'r Fferyllfa drwy fod yn barod am y cyflyrau cyffredin arferol rydym i gyd yn eu profi yn y gaeaf, fel annwyd, dolur gwddf, peswch, llid y sinysau, dolur annwyd a chroen sych.

Mae’n syniad da sicrhau bod gennych chi'r canlynol:

  • Meddyginiaeth Peswch
  • Melysion y Gwddf
  • Tabledi Llacio (Decongestant)
  • Chwistrell trwynol
  • Paracetamol
  • Ibuprofen/ Aspirin
  • Meddygaeth Diffyg Traul
  • Lleithyddion amlbwrpas (fel E45)
  • Hufen Dolur Annwyd
  • Triniaeth Wlser (fel Bonjela)
  • Thermomedr

Gellir trin nifer o ddamweiniau gartref hefyd gyda chymorth cyntaf sylfaenol, a dyna pam mae cael pecyn cymorth cyntaf cyfredol gartref yn bwysig.

Fferyllfeydd
Cyngor Cymorth Cyntaf
Dilynwch ni: