Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch Nadolig 'Rhodd Caredigrwydd' BIP CTM

Y flwyddyn hon, rydym yn dathlu haelioni cymunedol a'r nifer o ffyrdd y gallwn roi yn ôl gyda'n gilydd, trwy ein hymgyrch Nadoligaidd 'Rhodd o Garedigrwydd'.

Rydym yn gwahodd staff, cleifion ac aelodau cymunedol BIP CTM i gofleidio'r ysbryd o roi a chael effaith ystyrlon trwy fentrau elusennol lleol sy'n cefnogi ein hiechyd a'n lles.

O roi bunnoedd mewn blwch casglu, i wirfoddoli eich amser neu wneud rhywbeth caredig, mae'r ymgyrch hon yn seiliedig ar y syniad bod rhywbeth i bawb sydd eisiau lledaenu llawenydd a gwneud gwahaniaeth.

Bydd ein helusen GIG Cwm Taf Morgannwg, ynghyd â rhwydwaith o bartneriaid elusennol lleol, yn hyrwyddo mentrau amrywiol i annog pawb i gymryd rhan. Trwy arddangos straeon ysbrydoledig a dathlu haelioni, rydym am gynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd lleol a gobeithio ysbrydoli hyd yn oed mwy o gefnogaeth gan y gymuned.

Cefnogaeth i'r rhai  sy'n cael eu heffeithio gan Storm Bert 

Mae'r llifogydd dinistriol sydd wedi cael eu hachosi gan Storm Bert wedi gadael llawer o deuluoedd a busnesau ledled Rhondda Cynon Taf mewn angen i gael cefnogaeth frys.  

Mae Canolfannau Gorffwys wedi'u sefydlu ar gyfer preswylwyr sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yn: 

  • Llyfrgell Pontypridd 
  • Canolfan Chwaraeon Ystrad 
  • Canolfan Hamdden Sobell 

Mae'r canllawiau diweddaraf ar gyfer y rhai sy'n cael eu heffeithio yn RhCT ar gael trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor: https://www.facebook.com/RCTCouncil 

Gellir dod o hyd i gyfeiriadur o gymorth lles sydd ar gael i staff BIP CTM a allai gael eu heffeithio yma: Gwasanaeth Lles Gweithwyr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 

Codi Arian am Gymorth Llifogydd

Y ffordd orau o gefnogi'r rhai sydd wedi'u heffeithio'n lleol yw yw trwy'r Gronfeydd Cymorth bwrpasol sydd wedi'i sefydlu ar Go Fund Me:

Ynghyd â wleidyddion lleol a chynghorwyr RhCT, mae'r Ymddiriedolaeth Manon yn codi arian i ddarparu cymorth ariannol cyflym a theg i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio. 

Bydd pob rhodd yn cefnogi trigolion a busnesau lleol yn uniongyrchol, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau a'u cartrefi. Bydd eich haelioni yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymuned wydn. 

Ffyrdd eraill o gefnogi 

Mae’r llifogydd wedi effeithio ar lawer o ardaloedd oherwydd Storm Bert. Os ydych yn dymuno gwirfoddoli i gefnogi cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio, cysylltwch â rcttogether@rctcbc.gov.uk  

Bydd llawer o fusnesau lleol ac annibynnol wedi cael eu heffeithio fwyaf. Efallai yr hoffech ystyried prynu gan un o'r busnesau hyn naill ai'n wyneb yn wyneb neu ar-lein (os oes gennych y gallu i wneud hynny) fel ffordd o ddangos cefnogaeth.  

Mae hefyd elusennau cefnogol fel Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf a Pontypridd Foodbank a fydd yn rhoi cymorth brys i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan argyfyngau lleol fel y rhai a achoswyd gan Storm Bert. Gallwch hefyd ddarparu cefnogaeth werthfawr i'r elusennau hyn drwy roddion neu wirfoddoli eich amser.  

Cymerwch ran: Dywedwch wrthym am eich menter elusen!

Ydych chi'n elusen leol neu'n sefydliad cymunedol sy'n cynllunio ymgyrch codi arian, digwyddiad neu ymgyrch Nadoligaidd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful neu Rhondda Cynon Taf?

Oes gennych chi stori i'w rhannu am garedigrwydd cymunedol y Nadolig hwn?

Byddem wrth ein bodd yn cefnogi drwy ei rannu gyda'n cymuned drwy ein hymgyrch Rhodd o Garedigrwydd. Byddwn yn helpu i ledaenu'r gair oherwydd ein bod yn gwybod bod pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth. Gallwch gyflwyno manylion eich menter drwy ein harolwg.